Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymdeithas Lenyddol Eglwys Sant Ioan.
Llywydd, y Parch. J. E. Williams.

Cymdeithas Lenyddol y "Vagabond."

Sefydlwyd Hydref, 1910, ar gynllun Cymdeithas Lenyddol Cefn y Meusydd. Ymdrinir ynddi â phrif bynciau'r dydd, ac ar awdwyr a llyfrau. Etholir ei haelodau trwy ballot, a chyfyngir eu rhif i 21. Cynhelir y cyfarfodydd yn wythnosol, a dewisa pob cyfarfod ei gadeirydd. Ei sefydlwyr oeddynt—Mri. W. H. Gibbon, County School; J. Emrys Davies, Garth Cottage; Ithel Davies, Bryn Eirian.

Swyddogion presennol, Trysorydd, Mr. Ithel Davies. Ysgrifennydd, Mr. J. Emrys Davies.

CYMDEITHASAU CYFEILLGAR.

Yr Odyddion. Cyfrinfa "Madoc."
Sefydlwyd 1878.

Y Swyddogion cyntaf,—Llywydd, F. H. Strowger. Is—Lywydd, Mr. W. R. Williams, High Street. Ysgrifennydd, Mr. R. W. Owen. Trysorydd, Mr. David Williams, Slate Works. Gwarcheidwad, Mr. W. O. Jones.

Yr Ysgrifennydd presennol, Mr. William Jones, Eifion Villa.

Nifer ar y llyfrau, 217.

Urdd Henafol y Coedwigwyr.
(Cymdeithas Deyrngarol Madog, Rhif 6521).
Sefydlwyd 1879.

Y Swyddogion cyntaf,—Capten Williams; Mri. William Jones, Garth Terrace; R. Williams, Madoc Street; a C. Williams, Chapel Street. Ysgrifennydd, Mr. R. Barrow Williams, High Street.

Y Swyddogion presennol,—Ymddiriedolwyr, Mri. D. Morris, Oakleys; D. R. Thomas, J. R. Owen.