er na wnai hynny wrth drefn na rheol. Cyhoeddodd rai llyfrau, megis "Yr Emynydd Cristionogol," yn 1889; "Y Gestiana, sef Hanes Tre'r Gest, &c., yn 1892; a chyhoeddodd a golygodd "Cell Meudwy, sef Gweithiau Ellis Owen,'" yn 1877; a Gwaith Barddonol "Sion Wyn o Eifion " yn 1861. Efe hefyd oedd golygydd a chyhoeddwr "Baner y Groes," sef cylchgrawn misol Eglwysig; ac yr oedd yn gyd-olygydd â'r Parch. D. Silvan Evans i'r Brython, 1858-1863, ac yn gyhoeddwr iddo. Yr oedd yn gyfaill personol â phrif lenorion a chlerigwyr ei oes. Yr oedd yn wr hynaws a charedig, er y gallai ffraeo ar bapur dan gamp.
Bu'n briod dair gwaith—gyda Miss Hughes, ail ferch Dr. T. Hughes, Pwllheli; â Miss Roberts, Tremadog; a'r tro olaf gyda Miss Roberts, Bodlina, Môn. Bu iddo bedwar mab-un ydoedd Dr. Henry Isaac Jones, a fu farw yn San Francisco. Nid oes yn fyw heddyw ond Mr. E. Christmas Jones, Fferyllydd ac Argraffydd, Tremadog. Bu Alltud Eifion farw ar y 7fed o Fawrth, 1905, mewn oedran teg, yn 91 mlwydd oed, a chladdwyd ef yng nghladdfa'i hynafiaid ym mynwent Ynyscynhaiarn. Dodwyd ffenestr liwiedig ddrudfawr er coffadwriaeth am dano yn eglwys Ynyscynhaiarn. Wele'i doddaid coffa:
Hybarch hen oeswr, burwych hanesydd,
A'r haeddaf, hynaf, o feirdd Eifionnydd:
Trist yw a daenant trosot adenydd,
Cwsg awdwr eurddawn,—cwsg, wedi'r hirddydd.
Am dy ffawd a grym dy ffydd—erys son,
Tra cyrrau Eifion yn gartre crefydd.
—EIFION WYN.
BEUNO (Richard Williams) (1809-1895).—Gof a bardd, ydoedd frawd i Ioan Madog, ac a aned yn Nhremadog yn y flwyddyn 1809. Ychydig o fanteision addysg a gafodd—prin dri mis—ond llafuriodd yn ddyfal i ddiwyllio'i hunan, a daeth yn hyddysg yng ngheinion llên Cymru a Lloegr, a chanddo lyfrgell dda. Gallai adrodd oddiar ei gof ddarnau helaeth o weithiau'r prif feirdd Cymreig a Seisnig. Yr oedd yn hyddysg iawn yng ngweithiau Shakespeare, a hoff