ydoedd hyd ei farw o adrodd ei weithiau. hefyd ar ddawn neillduol i adrodd chwedlau hen, a Meddai thraddodiadau'r broydd. Ychydig a gystadleuodd, ac ni roddodd ei fryd ar farddoni; oherwydd eb efe, "nad oedd yr awen byth yn talu." Y mae ei gyfansoddiadau barddonol—englynion yn bennaf—ym meddiant ei ŵyr —y Parch. J. Williams Davies, Arthog. Er yn gynghaneddwr rhwydd a naturiol, cyffredin yw ei farddoniaeth, ac ni adawodd ar ei ol englyn na chwpled a ddeil i'w cymharu âg eiddo'i frawd. Credaf y gellir cymeryd y ddau englyn canlynol yn engraifft o'i oreu ym myd yr awen:
YR ANGOR.
Cryf hwylus sicr afaelydd,—i ddal llong
Pan ddel llid ystormydd,
Yw'r angor; ar fôr 'e fydd
I'r bywydau'n arbedydd.
AR OL EI FACHGEN A FU FARW'N WYTH OED.
Och! gau'n y bedd fy machgen bach—serchog
Ni ches archoll ddyfnach;
Ar ei ol ni fydd awr iach
I mi o gysur mwyach.
Yr oedd yr elfen ddigrifol a chwareus yn amlwg ynddo, a'i garedigrwydd yn wybyddus i'w gydnabod oll. Yn gymaint felly, fel y bu i rai fanteisio'n anheg arno, nes peri poen iddo ef a'i deulu. Bu iddo amryw blant, a gweithiai rhai o'i feibion gydag ef yng ngefail Corn Hill, gerllaw yr odyn galch. Yr oedd John, ei fab hynaf, yn fardd gwych, ac ennillodd amryw wobrwyon; ond efe a fu farw o nychdod ym mlodau'i ddyddiau, yn 23ain oed. Beuno a lwyddodd i fyned ag Eifion Wyn i'w urddo i Orsedd Eisteddfod Dalaethol Gwynedd, 1887,—yr unig Orsedd Eisteddfod y bu Eifion Wyn ynddi. Oherwydd profedigaethau mawrion, gadawodd Beuno Ben y Cei, gan fyned i fyw i'r Garth, at ei ferch hynaf—Mrs. Ellen Davies, mam y Parch. J. W. Davies. Ym Mehefin, 1889, bu farw Mrs. Davies, a chladdwyd hi ym mynwent Salem; ond