yn bur amddifad o unrhyw syniad o'r draul a olygai'r fath ymgymeriad.
Ar y cyntaf o Fedi 1625 cawn Syr John Wynne yn anfon y llythyr canlynol at ei gefnder—y Barwnig enwog Syr Hugh Middleton, cynlluniwr a gwneuthurwr Gwaith Dwfr cyntaf Llunden—"The New River" fel y gelwid ef,—gorchestwaith ei fywyd.
Wir deilwng Syr, fy nghywir gar, ac un o anrhydeddusaf wyr y Genedl.
Deallaf am orchwestwaith a gyflawnwyd gennych yn Ynys Wyth, yn ennill dwy fil o erwau oddiar y môr, a gallaf finnau ddweyd wrthych chwi, yr hyn a ddywedodd yr Iddewon wrth Grist: Y pethau a glywsom ni eu gwneuthur mewn lleoedd eraill, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.
Y mae dwy draethell yn Sir Feirionnydd, ag y gorwedd rhan o'm heiddo ar eu glannau, a elwir Traeth Mawr a Traeth Bychan, yn cynnwys arwynebedd mawr o dir, ac yn rhedeg i'r môr yn un aber nad yw'n filldir o led ar ben llanw, ac yn hynod o fâs. Y mae'r llifogydd o ddwfr croew a redant i'r môr yn fawrion a grymus, a chludant i'w canlyn lawer o dywod; heblaw hynny chwyth y Deheuwynt yn gyffredin yn deg i enau'r hafan, gan gludo gydag ef gymaint o dywod fel ag i orchuddio rhanau helaeth o'r tir cylchynol. Y mae yma, ac hefyd yn y gwledydd cyffiniol, ddigonedd o goed, a mangoed, a defnyddiau eraill cymhwys i wneud cloddiau, y gellir eu cael am bris isel iawn, a'u dwyn yn hawdd i'r lle; a chlywaf eu bod yn gwneud hyn yn Sir Lincoln i gau allan y môr. Bychan yw fy medr, a'm profiad yn ddim mewn materion o'r fath, eto dymunwn erioed roi help llaw i'm gwlad, gyda'r fath weithredoedd ag a fuasent er ei llwydd hi, ac yn gof am fy ymdrechion innau. Ond oherwydd fy rhwystro gan faterion eraill, ewyllysio'n dda'n unig a wnawn heb wneud dim. Yn awr, os gwel Duw yn dda eich dwyn i'r wlad hon, dymunaf arnoch gymeryd eich taith hyd yma, gan nad yw'r lle ymhellach na thaith diwrnod oddiwrthych, ac os gwelwch y peth yn briodol i ymgymeryd ag ef, yr wyf yn foddlon i anturio deucant o bunnau i ymuno a chwi yn y gwaith.
Y mae gennyf blwm yn fy nhir mewn cyflawnder mawr, a mwnau eraill yn ymyl fy nhy; os gwelwch yn dda ddod yma, gan nad yw'n ychwaneg na thaith deuddydd oddiwrthych, chwi a gewch groeso caredig,—hwyrach y gwelwch yma rywbeth a fo er eich mantais chwi a minnau. Pe gwybyddwn yn sicr pa ddiwrnod y deuech i weled y Traeth Mawr cawsai fy mab Owain Wyn ddod i'ch hebrwng, a'ch harwain oddiyno i fy nhŷ. Gan derfynu gyda chofion caredig atoch. Gorffwysaf eich anwyl gâr a chyfaill, J. WYNN."[1]
- ↑ Pennant's Tours in Wales, Vol. ii. pp. 363.