ddeuai'r galw. Ond bu farw cyn i'r cyfle ddod. Yr oedd yn siaradwr effeithiol, ac ar brydiau yn finiog iawn. Fel llenor, ysgrifennodd lawer ar faterion hynafiaethol i'r "Bye-gones" a'r "Archæologia Cambrensis." Ond ei brif waith llenyddol ydyw "The Kalendars of Gwynedd," gyda nodiadau gan W. W. E. Wynne o Beniarth, a gyhoeddwyd gan J. E. Hotten, Llunden, 1873. Gwnaed ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hynafiaethol. Bu farw ar y 10fed o Fawrth, 1881, yn 46 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys y Drindod, Penrhyndeudraeth. Yno hefyd y claddwyd ei briod, Ion. 9fed, 1891. Ffurfiwyd ysgoloriaeth er cof am dano yn yr Ysgol Ganolraddol yn y dref.—("Bye—gones," tud. 206; "Arch. Cambrensis," 1881, tud. 171: "Boosie's Modern Biog.).
DAVIES, EDWARD (1819-1894).—A aned ym Mrithdir Mawr, y Pennant, yn Eifionnydd. Yr oedd yn gyfoed â'r Parch. Thomas Ellis, Llanystumdwy. Dechreuodd bregethu'n gynnar. Yn y flwyddyn 1857 symudodd i Borthmadog i gadw masnachdy. Ymaelododd yn y Garth, a chymerodd ran flaenllaw yn ffurfiad eglwys y Tabernacl. Bu'n ffyddlon a gweithgar yno, ac i grefydd y cylch, tra fu buw. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn Gristion cywir. Yn Adroddiad eglwys y Tabernacl am 1894, dywed y Parch. J. J. Roberts am dano:—"Yr hwn a fuasai mewn undeb â'r achos o'i gychwyniad cyntaf, ac a gymerodd ran amlwg ac effeithiol yn ei holl symudiadau. Un o'r dynion mwyaf duwiol, tangnefeddus, a charuaidd, a adwaenasom erioed; ac y mae ein colled a'n hiraeth am dano yn fawr iawn." Bu farw Rhagfyr 11eg, 1894, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Porthmadog. Yr oedd yn 75 mlwydd oed.
DAVIES, MORRIS (1796—1876).—Ysgolfeistr, llenor, a bardd. Brodor o Fallwyd ym Meirion. Bu'n cadw ysgol yn Llanfyllin; a dechreuodd bregethu. Yn 1836 rhoddodd swydd ysgolfeistr i fyny, gan fyned i swyddfa cyfreithiwr; a bu'n dilyn hynny am ysbaid ym Mhwll