yddol, yn areithiwr hyawdl, yn fardd enwog, ac yn bregethwr poblogaidd. Nodweddid ei bregethu gan symlrwydd a naturioldeb, a'i farddoniaeth gan brydferthwch a cheinder. Efe yw tad Annibyniaeth broydd Madog. Bu'n weinidog gweithgar yn y cylch am 36 o flynyddoedd. Fel bardd, cystadleuodd lawer. Gweler hanes ei ymdrechion eisteddfodol a nifer ei gynyrchion barddonol yn "Hanes Llenyddiaeth Gymreig (Ashton), tud. 695—701; hefyd, feirniadaeth arnynt gan Dyfed, yn "Trem ar y Ganrif" (J. M. Jones), tud. 66. Cyhoeddwyd ei weithiau dan olygiaeth Hiraethog yn 1875. Yr oedd efe ei hun wedi cyhoeddi amryw o'i awdlau, &c., "Chofiant S. Jones, Maentwrog. Ystyrir ei "Adgofion fy Ngweinidogaeth" yn hafal i ddim o'r fath yng Nghymraeg. Bu farw ar y 31 o Hydref, 1873, yn 60 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Capel Helyg. (Gwyddoniadur, Cyf. x., tud. 436; Y Geninen, 1895, tud. 224, 172, 130; Y Traethodydd, 1888, tud. 240: 1903, tud. 282; Y Dysgedydd, 1837, tud. 513: 1839, tud. 155, &c., &c.).
ETHERIDGE, JOHN (1777—1867), ydoedd Albanwr Llundeinig, a aned yn y flwyddyn 1777. Arfaethai ei rieni iddo fyned yn amaethwr, a bu am gyfnod yn paratoi ei hun at hynny. Daeth i Ddyffryn Madog gyda Mr. Madocks, a daeth yn fuan i ennill ei ffafr a'i ymddiriedaeth lwyraf. Efe oedd un o'r ychydig a barhaodd yn bur a ffyddlon i'w feistr enwog hyd y diwedd. Yr oedd yn ddyn aml ei alluoedd ac yn fedrus mewn llawer crefft. Yr oedd yn saer maen a choed celfydd, ac yn ddyfeisydd gwych. Efe a benodwyd gan Mr. Madocks yn geidwad helwriaeth ei stât, ac i ofalu am ei diroedd a'r coedwigoedd yn ei absenoldeb. Priododd â Miss Catherine Hughes, Pengamfa, Penmorfa; a bu'n byw yn Gatehouse, Morfa Lodge. Gofalai am Duhwnt i'r Bwlch a Morfa Lodge i Mr. Madocks, a dygai ymlaen welliantau ac adgyweiriadau yno. Efe a adeiladodd y Tŵr gerllaw Morfa Lodge. Gwelais lawer o lythyrau Mr. Madocks ato, a thystiant oll i lwyredd ei ymddiriedaeth ynddo, a'i ffyddlondeb