cwmni llechau llwyddiannus sy'n dwyn yr enw. Priodd â Miss Steadman, Tŷ Nanney, Tremadog; a buont. yn byw am ysbaid yn Nhan'rallt, ac hefyd ym Mlaenau Ffestiniog. Bu farw yn Brighton, ar y 12fed o Chwefrol, 1880, yn 73 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Leamington. Cymerai ran flaenllaw yn symudiadau cyhoeddus Tre a Phorthmadog. Bu'n Ynad Heddwch, a chywirach ynad nid eisteddodd ar y Fainc. Bu'n noddwr ffyddlon i'r Ysgol Genedlaethol. Meibion iddo ef yw J. E. Greaves, Ysw., Arglwydd Rhaglaw y Sir, ac R. M. Greaves, Ysw., y Wern; a'i ferched ef yw Miss Greaves, Tan'rallt, a Lady A. Osmond Williams, Castell Deudraeth.
GRIFFITH, SAMUEL (1834—1908).—Meddyg, a mab i Mr. Samuel Griffith, Saddler, Tremadog, a aned yno yn y flwyddyn 1834. Bu'n dilyn crefft ei dad hyd yn 17eg oed. Yr oedd er yn ieuanc yn fachgen bucheddol, a bu am gyfnod ei faboed yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid yn Nhremadog. Ymroddodd i ddiwyllio'i hunan, gan wneuthur defnydd da o'i oriau hamdden. Yn 1851 gadawodd fainc y sadler, gan fyned yn egwyddor—was at y meddyg Rowland Williams, Tŷ Nanney, Tremadog. Yn 1859 aeth yn llwyddiannus trwy ei arholiad meddygol, ac ymsefydlodd ym Mhorthmadog lle y daeth yn feddyg llwyddiannus a chymeradwy, a chylch ei ymarfer yn eang. Cymerai ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus y dref. Bu'n Gadeirydd y Bwrdd Lleol am flynyddoedd; yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, y Bwrdd Ysgol, a'r Cyngor Dinesig. Bu hefyd yn Gadeirydd y Feibl Gymdeithas am dymor maith. Yr oedd yn feddiannol ar gymhwysderau amlwg i weithredu ar bwyllgorau; nodweddid ef â rheswm cyffredin cryf, gwelediad clir, a barn aeddfed. Yr oedd yn amddiffynnwr cadarn i'r gwan, ac yn noddwr pur i'r tlawd a'r angenus, ac nid oedd a'i cyhuddai ef o wneuthur cam â gwr yn ei fater. Yn grefyddol, Eglwyswr selog ydoedd; a bu'n athraw llafurus yn Ysgol Sul St. Ioan am flynyddoedd. O ran ei ddaliadau gwleidyddol, Ceidwadwr ydoedd. Treuliodd ei oes faith