ym mro ei febyd, yn ceisio lleddfu poen a gofidiau ei gymdogion, a phuro a dyrchafu cymdeithas. Bu farw, wedi cyrraedd oedran teg, ar y laf o Ragfyr, 1908, yn 74 mlwydd oed.
GRIFFITH, WILLIAM.—Mano'warsman, ac ysgolfeistr. Wedi cwblhau ei amser ar y môr, bu'n cadw ysgol ddyddiol, yn gyntaf mewn ystafell yn ymyl gwaelod y Grisiau Mawr, ac wedyn mewn ystafell y tu cefn i Gapel Berea, yn Terrace Road. Yr oedd yn anafus o'i glun, a gwisgai goes gorcyn. Efe oedd yr ysgolfeistr cyntaf i ddysgu'r tô cyntaf o fechgyn y Port a ddaethant yn gapteiniaid ar y dosbarth llongau a ddechreuasant hwylio o Borthmadog ymhellach na Lerpwl, Caerdydd, a'r porthladdoedd cartrefol. Morwriaeth a ddysgai efe'n bennaf. Yr oedd llawer o hynodion yn perthyn iddo, yn ei wisgoedd a'i ddull o fyw. Slippers cryfion a wisgai bob amser. Hen lanc ydoedd, ac efe a wnai bopeth iddo'i hunan—golchi, glanhau y tŷ, pobi, a choginio, heb son am drwsio ei ddillad, &c. Yn ychwanegol at gadw'r ysgol, efe hefyd a ofalai am y News-room ym Mhen y Cei.
GRINDLEY, RICHARD ( —1893). Ysgolfeistr. Brodor o Gaernarfon ydoedd Mr. Grindley. Daeth o Ysgol Genedlaethol y dref honno, yn y flwyddyn 1863, i fod yn brif athro'r Ysgol Genedlaethol ym Mhorthmadog. Yr oedd yn enwog am ei allu i ddysgu plant, a bu'n llwyddiannus iawn gyda'r gwaith. Cydnabyddid ef fel un o athrawon goreu'r siroedd o amgylch. Daeth i Borthmadog ar adeg ffafriol iddo, a gwnaeth ddefnydd o'i gyfle; ac i'w lwyddiant ef y priodolid gwaith Porthmadog yn gwrthod y Bwrdd Addysg am gyhyd o amser. Yr oedd iddo barch didwyll gan bawb o'i gydnabod, ac yr oedd yn fawr ei ddylanwad yn y dref a'r gymdogaeth. Edmygid ef gan rieni a phlant; ac fel arwydd o'r parch a'r edmygedd hwnnw, cyflwynodd ei gyfeillion iddo lestri tê a choffi arian, gwerth £17, ar y 19eg o Ragfyr, 1867; a chyflwynodd y plant gâs pensel arian iddo. Yr oedd yn Eglwyswr selog a chydwybodol, a