Wyn o Wyrfai. Yr oedd Gwilym Eryri yn eisteddfodwr ffyddlon, ac yn gystadleuydd cyson; ac er nad ennillodd ond un Gadair Genedlaethol, eto byddai ei gyfansoddiadau bob amser ymhlith y goreuon. Yr oedd yn bedwerydd, allan o 14eg o ymgeiswyr, ym Mhwllheli, yn 1875, ar awdl "Prydferthwch"; yn drydydd allan o 19eg ar Cariad ym Merthyr—Tafolog yn bedwerydd; yn ail yng Nghaerdydd yn 1883 a Gurnos yn drydydd, ar "Y Llong," ond cadair wâg oedd honno. Yn Eisteddfod Lerpwl, 1884, yr oedd yn bedwerydd, allan o 13eg, ar "Gwilym Hiraethog "—Hwfa Môn a Watcyn Wyn yn ei ddilyn; yn bedwerydd, allan o 17eg, yn Llunden yn 1887, ar Victoria," a Hwfa Môn yn bumed. Yng Ngwrecsam, yn 1888, yr oedd yn bumed allan o ugain ar "Beroriaeth"; ac ym Mangor, yn 1890, yn drydydd allan o 14eg ar "Y Llafurwr." Safai hefyd yn ail i Elfed, allan o 23ain, ar "Hunanaberth," yng Nghaernarfon yn 1894, a Berw, Tafolog, Machreth, Alafon a Bethel, yn ei ddilyn. Yn Eisteddfod Caernarfon, 1886, yr oedd yn cyd-farnu â Gwalchmai ac Elis Wyn o Wyrfai, ar destyn y gadair, "Gobaith." Ennillodd amryw wobrwyon o bwys yn yr Eisteddfod Genedlaethol, megis cywydd "Yr Ystorm" yn Eisteddfod Lerpwl, 1884—William Nicholson yn ail; cywydd "Morfa Rhuddlan " yn Eisteddfod y Rhyl, 1892; hir a thoddeidiau, "Deuddeg Sir Cymru," yn yr Wyddgrug, 1873; beddargraff Cynfaen yn Llunden, 1887; "Machludiad yr Haul yng Ngwrecsam, 1888; "Y Drugareddfa " yn y Rhyl, 1892; cân goffa am "Iolo Trefaldwyn" yng Ngwrecsam, 1888; myfyrdraeth, "Brâd Aberedwy," ym Mhontypridd, 1893; englynion, "Afonydd Cymru," yn Llunden, 1887; ac englyn "Anadl" yng Nghaerdydd, 1883. Wele'r englyn:—
Anadl wan! ei doleni—yw'm cadwen,
Yn fyw'n cedwir drwyddi:
A'i dyrnod ryw ddydd, arni,
Tyr angeu fwlch,—trengaf fi.
Os nad oes barddoniaeth yn yr englyn uchod, ni wn i ym mha le i'w geisio.