Gwelir ei fod yn sefyll yn uchaf mewn tair o'r etholiadau, a'i fod yn ail yn y ddwy arall. Dengys hyn mai nid yn Nyffryn Madog yr oedd ei holl glodydd, a bod ei edmygwyr a'i gefnogwyr yn lliosog, a'i lafur yn werthfawr mewn rhannau eraill o'r wlad.
Whig ydoedd o ran ei ddaliadau gwleidyddol, a chymerai ran amlwg yng ngweithrediadau'r Senedd. Ar yr 11eg o Fai, 1809, daeth a chyhuddiad o lwgrwobrwyaeth mewn etholiad yn erbyn dau o weinidogion y Goron, sef Arglwydd Castlereagh, a Spencer Percival. Efe hefyd, ar y 15fed o Fehefin, yr un flwyddyn, a eiliodd Syr Francis Burdett gyda'r mesur cyntaf i ddiwygio'r gyfundrefn etholiadol a ddygwyd ger bron y Senedd.
Er iddo gael ei ddychwelyd dros Boston yn etholiad 1818, nid ydoedd yn aelod o'r Senedd ddilynol. Pa beth ydoedd y rheswm am hyn, nid yw'n hysbys. Ond ar yr 8fed o Fawrth, 1820, etholwyd ef yn gydaelod â John Rock Grossett dros Fwrdeisdref Chippenham, Swydd Wilts, a bu'n cynrychioli'r etholaeth honno hyd senedd-dymor 1826, pryd y cefnodd yn gyfangwbl ar wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.
Yn y flwyddyn 1818 ymbriododd â Mrs. Gwynne, Tregynter Hall, Brycheiniog, merch i Thomas Harris, ail frawd Howel Harris, Trefecca,—a bu iddynt un ferch, a aned ar y 14eg o Ebrill, 1822. Treuliodd Mr. Madocks y rhan fwyaf o'i flynyddoedd olaf yn Hay, ym Mrycheiniog, gan ymweled yn achlysurol â Dyffryn Madog.
Wele'n dilyn ddau ddifyniad o'i lythyrau. Dodir hwy i mewn yma yn engraifft o'i ddull rhwydd a naturiol o ysgrifennu; ac hefyd am eu bod yn nodweddiadol o gymeriad eu hawdwr. Difyniad yw'r naill, o lythyr at Mr. John Williams, a ysgrifennwyd tra'r oedd Mr. Madocks yn anterth ei ddydd; ac er ei fod y pryd hynny wedi cwblhau gorchestwaith ei fywyd, yr oedd ei alluoedd yn llawn ynni, a'i feddwl mawr yn llawn cynlluniau, er gwella ei hoff lannerch, a dadblygu cyfoeth ei broydd. Difyniad yw'r llall, o un o'i lyth-