Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofyn dyn i gyd â phwrs mawr ganddo. Anrhydeddus Syr, y mae fy awydd i'ch gweled mor fawr, fel ag i'm tynu lawer pellach ffordd: eto amled yw fy ngorchwylion ar rai adegau yma, er cwblhau y gwaith mawr hwn, fel mai prin y gellir fy hebgor un awr mewn diwrnod. A chan fod fy ngwraig yma hefyd, ni allaf ei gadael mewn bro estronol. Eto dichon i'm cariad at waith cyhoeddus, a'm hawydd i'ch gweled chwi (os caniata Duw), ryw adeg arall fy nenu i'r parthau yna.

Felly gyda dymuniadau calonog cyflwynaf chwi a'ch holl ddymuniadau da i Dduw. Eich cywir ac anwyl i'w orchymyn,

HUGH MIDDLETON.

Nid oes genym hanes i Syr John Wynne wneud dim ychwaneg gyda'r syniad.

Ond er marw'r awdwr, ni ddiflanodd y drychfeddwl —gadawodd hwnnw'n gynysgaeth ar ei ôl, i fod o ddefnydd i'r sawl a welai werth ynddo. Cyhoeddwyd yr ymdrafodaeth yn "Nheithiau yng Nghymru" Pennant yn 1778, ymhen canrif a hanner. Yr oedd yn niwedd y ganrif honno, yn ardal dawel a rhamantus Llanelltyd, rhwng mynyddoedd Meirion, ŵr ieuanc cyfoethog pedair ar hugain oed, coeth a diwylliedig ei feddwl, ac anturiaethus ei ysbryd, oedd newydd orffen ei yrfa addysg ddisglaer yn y prif Golegau, ac wedi prynu iddo'i hun le o'r enw Dol y Melynllyn. Yno daeth o hyd i lyfr Pennant: darllenodd ef gyda dyddordeb mawr, syrthiodd ei olygon ar drafodaeth y Morglawdd, a swynodd y syniad ef yn fawr, a phenderfynodd ymweled â'r lle, i edrych ai ymarferol y cynllun. Yn 1798 gwelodd fod amryw o ffermydd y Traeth Mawr, o eiddo Mr. Price y Rhiwlas, a Mr. Wynne o Beniarth, i fyned ar werth. Penderfynodd gynnyg am danynt, a llwyddodd yn ei ymgais. Wedi cyflawni amodau'r pryniant, ymbaratodd i wynebu'r anturiaeth.

Y gorchwyl cyntaf yr ymgymerodd âg ef ydoedd ennill y rhan orllewinol o'r Dyffryn, sef Morfa'r Wern, oedd tua dwy fil o erwau o fesur—trwy wneuthur clawdd pridd o Drwyn y Graig, Prenteg, i Glog y Berth. Wedi llwyddo yn yr ymgais honno, dechreuodd adeiladu Tremadog, gan fwriadu iddi fod yn brif dref y cwmwd, ac yn dref marchnad y broydd. Agorwyd