all the parts where the grass has increased within the last two years. You have said nothing to me about planting Ivy all round the Church, and putting young larches 3 feet high in the long walk, and in the plantation at the North Sluice Tower. Does the plantation behind Pentre Nelly[1] want thinning? though we shall all be with you in May. Answer my two last letters fully, and explain all about the grass on the sands. Will there be a good crop of strawberries this year? in the garden—and raspberries. How are the young fruit trees? In my next I will send you full directions about the new nursery and money to build it with, &c., if you are not too much engaged with Mr. Barton, where does he live now? How soon will his new house at Cae Canol be ready for him? Answer all this, and my two last letters to Messrs. Morlands, Pall Mall, London. Hoping to see you soon, that is, in May. Believe me,
Your sincere friend,
W. A. MADOCKS.
Yr oedd erbyn hyn mewn anhawsderau ariannol, a chasglaf mai y "Messrs. Morlands " y cyfeiria atynt, oeddynt y cyfreithwyr a reolent ei eiddo yn y blynyddoedd hyn, gyda'i frawd, Mr. John Madocks. Nid yw'n ymddangos iddo ymweled â Dyffryn Madog yn ol y bwriad uchod, oherwydd ni sonia am hynny mewn llythyr diweddarach at J. Etheridge, dyddiedig y 25ain o Ebrill; ond rhydd gyfarwyddiadau iddo yn hwnnw o berthynas i Morfa Lodge, ac ar fod popeth yn barod erbyn Gorffennaf ac Awst. Ond y mae'n amheus a fu yma'r pryd hynny ychwaith, gan iddo ymneillduo i'r Cyfandir, lle y bu farw. Bu ei stât yn y Chancery.
Y mae'n syn meddwl nad oes neb heddyw a wyr hyd sicrwydd ddyddiad nac amgylchiadau ei farwolaeth, nac ychwaith y man y gorwedd ei lwch. Nid oes gofnod o gwbl am dano ym mynwent nac eglwys Llangar—lle y claddwyd ei briod a'i ferch—a'r unig nodiad sy'n meddiant neb o'r teulu yw nodiad moel, "Died 1828," yn llawysgrif ei nai. Mr. John Madocks,[2] mewn
- ↑ Penrhyn heli?
- ↑ Yr oedd Mr. John Madocks hefyd yn Aelod Seneddol. Cynrychiolai Sir Ddinbych, fel Whig, hyd Ionawr, 1835. Bu farw yn ei breswylfod, Glan y Wern, Dinbych, ar yr 20fed o Dachwedd, 1837, yn 52 mlwydd oed. Yn yr arwerthiant a fu ar ran o stât Kinmel, ym mis Gorffennaf, prynodd Major H. J. Madocks blas Glan y Wern am saith mil o bunnau.