Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/182

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llyfr achau sy'n meddiant Major H. J. Madocks, Llunden,—prif gynrychiolydd teulu Madocks ar hyn o bryd. Dywed un awdwr Seisnig o bwys—" Dict. of National Biography "—iddo farw ym Mharis, ym mis Medi, 1828. Ond dywed y bywgraffwyr Cymreig, bron yn ddieithriad, mai yn y flwyddyn 1829 y bu farw. Ond y mae'r gwahaniaeth mawr sy'n eu plith o berthynas i'r lle y bu farw, yn profi nad oedd unrhyw wybodaeth bendant o fewn eu cyrraedd. Dywed rhai o honynt mai ym Mharis, eraill mai ar y Cyfandir, eraill mai ym Mharis, neu'n yr Eidal. Felly, ar bwys tystiolaeth Mr. J. Madocks, tueddir fi i gredu, ar ol chwilio llawer, mai y "Dict. of National Biography" sy'n gywir. Felly, yn debyg i lawer arwr arall, y bu tynged y dyngarwr, a'r gwladgarwr a'r cymwynaswr hwn. Rhoddodd ei athrylith a'i ddiwylliant at wasanaeth ei oes, a threuliodd ei gyfoeth lawer er dwyn trysorau'i wlad i sylw'r byd, yna bu farw, yn ddim ond 54ain mlwydd oed, mewn bro estronol, heb ond dieithrddyn i dalu iddo'r gymwynas olaf! Y mae cenedlaethau lawer yn y broydd hyn wedi manteisio'n helaeth o ffrwyth ei lafur, ac ymgyfoethogi'n fawr arno; ond nid oes neb, hyd yn hyn, wedi talu'r deyrnged ddyladwy iddo, trwy godi cofgolofn, na sefydlu ysgoloriaeth, na dim arall teilwng o hono.

Arafwch, arbwylledd, a llawn hunanfeddiant
Oedd cuddiad ei gryfder a sylfaen ei glod;
Amynedd yw mamaeth gwroldeb ddiffuant,
Na fynnai encilio nes cyrhaedd y nôd;
Yng nghanol ffrwydriadau teimladau cynhyrfus
Y safai ein Madog mor dawel a'r graig,
Yr hon a ddirmyga y stormydd digofus,
A chwardd yn ddigyffro pan ruo yr aig.

Bu'n noddwr caredig i feibion yr awen,
Ymgasglai llenorion o amgylch ei fwrdd;
Ac yno bu Shelley a Dafydd Ddu'n llawen
Yn ceisio alltudio trafferthion i ffwrdd;
A gwr ei ddeheulaw oedd Twm o'r Nant fedrus;
Croesawai'r hen Ionawr, a bardd Nantyglyn;
Derbyniodd gan' diolch gan Gwyndaf a Pheris,
Bu'n plethu y llawryf ar ben Dewi Wyn.