Yn 1816 priododd â Mary, un o ferched William Owen, Ynys Cyngar,—yntau y pilot cyntaf ym Mhorthmadog. Symudodd i fyw i'r Tywyn—fel y gelwid y Port y pryd hwnnw—a phenodwyd ef yn Feistr yr Harbwr—swydd a lanwodd gyda ffyddlondeb hyd ddiwedd ei oes. Ystyrid ef yn wr o synwyr cyffredin cryf, ac ym meddu ar farn aeddfed. Bu farw ar y 29ain o Ragfyr, 1840, yn 51 mlwydd oed.
MORRIS, OWEN (1830—1884).—Mab i David Morris, slate shipper cyntaf Mr. Samuel Holland. Ganwyd Owen Morris yn Hafotty, Llanfrothen, Awst 27ain, 1830. Symudodd y teulu o'r Foty yn 1838 i Boston Lodge, ac yno bu farw ei rieni,—ei fam ar y 28ain o Orffennaf, 1839, a'i dad ar y laf o Dachwedd, 1841. Aeth yntau i'r ysgol at ei ewythr, Richard Morris, i Harlech, ac wedyn i Borthmadog; ac yn 1844 aeth i swyddfa Mr. Holland. Yn 1846 symudodd o Boston Lodge i fyw i Borthmadog, a daeth yn fuan i ennill ymddiriedaeth llwyr ei feistr. Yn 1858 aeth yn bartner gyda Mr. Richard Williams, y Slate Works. Yn 1877 penodwyd ef yn ysgrifennydd i Gwmni'r Welsh Slate: Yr oedd yn Annibynwr ffyddlon a gweithgar, a dewiswyd ef, pan yn bur ieuanc, yn ddiacon yn Salem. Danghosodd yn fore ei fod yn feddiannol ar ddawn lenyddol, ac ysgrifennodd amryw erthyglau Cymraeg a Saesneg. Y mae ei draethawd, "Portmadoc and its Resources," a ysgrifennwyd ganddo pan yn bump ar hugain oed, yn un o'r pethau goreu sydd wedi ymddangos ar ddechreuad Porthmadog; ac amlwg yw ei fod yn lled gyfarwydd â'r gwahanol ffynhonellau. Enillodd wobr a bathodyn arian am dano yng Nghylchwyl Lenyddol Salem, y Pasg; a dyma, hyd y gwyddis, fu ei ymgais olaf ym myd llên. Gresyn iddo roddi ei ysgrifell o'r neilldu mor fore, oherwydd yr oedd yn feddiannol ar ddawn lenyddol raenus, ynghyd a manylder y gwir hanesydd. Carai lenyddiaeth ei wlad, a noddai'r eisteddfod. Bu farw ar y 23ain o Ebrill, 1884, a chladdwyd ef ym mynwent Ramoth, Llanfrothen. Cyhoeddwyd Cofiant bychan iddo gan y Parch. Lewis Probert, D.D.