Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/192

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eddwyd ei feddwl at y weinidogaeth, ac yn y flwyddyn 1853 aeth i Athrofa'r Bala, lle y bu am bedair blynedd. Yng Nghymdeithasfa Bangor, 1859, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Y flwyddyn ddilynol1860—derbyniodd alwad oddi wrth eglwys y Garth, Porthmadog. Pan agorwyd capel y Tabernacl—ymhen dwy flynedd ymgymerodd a bugeilio'r eglwys honno hefyd gwaith a wnaeth gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd y flwyddyn 1877. Parhaodd ei gysylltiad â'r Garth hyd y flwyddyn 1903. Bu'n llenwi rhai swyddi o bwys yn y Cyfundeb. Yng Nghymdeithasfa Llangollen, 1873, penodwyd ef i draethu ar Natur Eglwys. Yr oedd yr un flwyddyn yn Arholwr Cymdeithasfaol. Bu'n Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1875—6, ac yn Ysgrifennydd Cymdeithasfa'r Gogledd, 1878—80. Bu'n Llywydd y Gymdeithasfa yn 1885. Ystyrid ef yn bregethwr coeth, yn hytrach na hyawdl, a meddai ddylanwad yn y cylchoedd y troai ynddynt. Ymataliai, yn y blynyddoedd diweddaf, rhag myned i Gymanfaoedd ei enwad, nac ymgymeryd âg unrhyw ran amlwg mewn gweithrediadau cyhoeddus o unrhyw natur. Wedi terfynnu ei weinidogaeth ym Mhorthmadog symudodd at ei fab i Connah's Quay, i dreulio gweddill ei ddyddiau mewn tawelwch. Yno y bu farw, ar yr 28ain o Awst, 1908, yn 75 mlwydd oed.—(Y Blwyddiadur, 1909).

OWEN, WILLIAM (1830—1865).—Coed-fasnachydd a cherddor. Ganwyd ef yn Nhremadog. Danghosodd duedd yn ieuanc at gerddoriaeth. Bu'n chwareuwr taledig yn Eglwys Tremadog, a gwnaeth lawer i feithrin a dyrchafu cerddoriaeth yn Nyffryn Madog. Cyfansoddodd a chyhoeddodd amryw donau ac anthemau. Bu cryn ganu ar ei anthem, "Ar lan afonydd Babilon.' Efe hefyd a gyfansoddodd y dôn "Johana Crüger," ar eiriau Emrys, "Iesu dyrchafedig." Trefnodd hon yn arbennig i'r Cerddor, Mai, 1861. Gwelir hi hefyd yn Llyfr Tonau y M.C., 458; ond ni roddir iddo ddim clod am dani yno. Sefydlodd Gymdeithas Gerddorol yn y cylch, a chynhaliodd lawer o gyngherddau uwchraddol tuag at gynorthwyo achosion dyngarol.