Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/193

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addysgol, a chrefyddol. Cynhorthwyid ef yn y cyngherddau hyn gan brif foneddigion a boneddigesau'r cwmpasoedd. Y mae adroddiad am un o'r cyfryw ger fy mron—cyngherdd a gynhaliodd tua blwyddyn cyn ei farw—i helpu Ysgol y Babanod ym Mhorthmadog. Yr oedd yr elw a gafwyd yn £30. Am ei allu fel cerddor, ni raid wrth deyrnged uwch na thystiolaeth Ieuan Gwyllt iddo mewn adroddiad o un o'i deithiau cerddorol trwy Feirion, Eifionnydd, a Lleyn. Yn ei sylwadau ar Eifionnydd dywed:

"Dechreuasom yno ym Mhorthmadog. . . . . Yma ni a ddaethom i gyfarfyddiad â'r cyfaill caredig, a'r cerddor medrus a galluog, Mr. William Owen.

Un o lewion cerddorol Cymru yw y gwr hwn, a da iawn a fyddai i gerddoriaeth ein gwlad pe rhoddai efe fwy o'i lafur ati" (Cerddor, Mehefin, 1862). Yn y Cerddor am Chwefrol, 1865, ceir ysgrif o'i waith ar Melodedd, amrywiaeth ac ystwythder yn y gwahanol leisiau "; ac mewn nodiad yn ei dilyn, dywed y Golygydd: "Byddai yn dda gennym ped anrhegid y Cerddor a mwy o gynnyrch myfyrdod yr awenydd athrylithgar hwn."

Diau, pe y cawsai fwy o ddyddiau ar y ddaear, y daethai'n un o gerddorion enwocaf Cymru. Bu farw ym mlodau'i ddyddiau, ar yr ail o Awst, 1865, yn ddim ond 35 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Penmorfa.

PARRY, THOMAS (1826—1896).—A aned yn Nhyddyn y Morthwyl, Rhoslan. Aeth i forio'n ieuanc; ond ar un o'i fordeithiau, gadawodd y llong yn un o borthladdoedd Awstralia, i fyned i "dreio'i lwc," a llwyddodd. Wedi treulio cyfnod maith yno, dychwelodd yn ol i Eifionnydd, gan ymsefydlu ym Mhorthmadog yn fasnachydd coed ar raddfa eang. Bu'n noddwr ffyddlon i'r Bedyddwyr ym Mhont Ynys Galch. Cyfrannodd yn hael tuag at yr achos, a bu yn gyfaill wrth raid iddo mewn cyfyngder. Ceir prawf o hynny ar mortgage deed y capel, wedi ei ysgrifennu gan Mr. Parry ei hun.

"I, Thomas Parry, Timber Merchant, Portmadoc, paid all of this within Mortgage as in statements from May 22, 1872 to