Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/194

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

April 4, 1885, which amounted to nearly £400, including interest and fines. I deliver the same up for the consideration of Promissory Note from the Brothers of £50.—THOMAS PARRY."

Cyfranodd symiau eraill o £100, a dau £25.

Bu farw Gorffennaf 8fed, 1896, yn 70 mlwydd oed.

PERCIVAL, FREDERICK SAMUEL (1828—1912).—Prif berchennog Chwarel y Fotty a Bowydd ydoedd efe, ac ni bu meistr erioed yn caru lles ei chwarelwyr yn fwy, na neb yn fwy ei barch gan ei weithwyr. Bu yn dal cysylltiad â'r chwarel am dros hanner cant o flynyddoedd. Bu'n brif offeryn i sefydlu Clwb y Cleifion a Banc Cynilo ynglyn â'r chwarel. Ni bu ffyddlonach meistr erioed nag ef; ymlynai'n dyn wrth ei hen weithwyr. Pleidiai hwy ymhob achos teilwng, ac ni adawai hwynt yn ddigynnysgaeth yn eu hen ddyddiau. Yn 1899 cyflwynodd ei weithwyr anerchiad lliwiedig iddo, yn gydnabyddiaeth o'i lafur, ac yn arwydd o'u parch iddo a'u hymlyniad wrtho. Cymerai ddyddordeb mawr yn Eglwys Sant Ioan, a chyfrannodd yn hael tuag ati. Bu farw yn ei breswylfod, Bodawen, wedi cystudd maith, ar y 30ain o Dachwedd, 1912, yn yr oedran teg o 84 mlwydd oed. Claddwyd ef yng nghľaddfa'r teulu ym mynwent Llanbedrog.


PRITCHARD, R. (1783—1855).—Capten a bancer. Ganwyd ef yn Ty Gwyn y Gamlas, Ynys Llanfihangel-y-Traethau, Meirionnydd. Ymbriododd â Janet, merch Robert Jones, Plasucha, Meirion. Symudodd i fyw i Borthmadog tua'r flwyddyn 1828. Bu'n morio amryw weithiau gyda'i long, y Gomer, i'r America. Gadawodd y môr yn 1835, gan ddechreu masnach iddo ei hun yn y Terrace—lle a elwir yn awr yn Lombard Street. Masnachai ar y cyntaf mewn porter, a gariai ei long o'r Iwerddon. Ond wedi dyfodiad y don ddirwestol dros y wlad, yn 1838, rhoddodd i fyny werthu'r ddiod, fel arwydd gweledig o'i argyhoeddiad o ddrwg meddwdod cymerodd y baril olaf o borter a feddai gan ollwng ei gynnwys i'r heol. Daeth hwch cymydog heibio, chwenychodd y ddiod, ac yfodd yn helaeth o