lawer, a thraddododd liaws o ddarlithoedd er budd achosion crefyddol a dyngarol yn y dref a'r cymdogaethau cyfagos. Cyfarfu â'i farwolaeth ar y 7fed o Fehefin, 1910.
PROBERT, LEWIS (1841—1908).—Ganwyd ef yn Llanelli, Medi 22ain, 1841; ac yno, yn y flwyddyn 1862, y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu. Bu'n weinidog ym Modringallt a'r Pentre, Rhondda. Yn nechreu'r flwyddyn 1874 derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Salem, Porthmadog, i ddod yn fugail arni, fel olynydd i'r Parch. William Ambrose, a phrofodd ei hunan yn deilwng o'r anrhydedd. Bu'n arweinydd doeth i'r eglwys tra bu yno; gwelodd adeiladu capel coffadwriaethol gorwych i'w ragflaenydd enwog, a gweithiodd yn egniol tuag at y gost. Yn 1889 cefnodd ar Borthmadog, ac aeth yn ol i hen faes ei lafur ym Mhentre, Rhondda. Yn 1898 dewiswyd ef i fod yn olynydd i'r diweddar Barch. Herber Evans, D.D., fel Prif—athraw Coleg BalaBangor. Bu farw Rhagfyr 29ain, 1908, yn 71 mlwydd oed. Yr oedd yn llenor medrus, yn bregethwr grymus a galluog, ac yn ddiwinydd o'r radd flaenaf. Ysgrifennodd lawer i'r Beirniad, y Traethodydd, y Geninen, a'r Dysgedydd. Ysgrifennodd hefyd Esboniadau gwerthfawr ar yr Epistol at y Rhufeiniaid, yr Epistol at yr Ephesiaid, a rhan o lyfr y Datguddiad. Ond ei brif waith diwinyddol ydyw ei gyfrol ar yr Ysbryd Glan, o dan yr enw Nerth y Goruchaf." Ei nodweddion amlycaf oeddynt nerth, mawredd, ac urddas. Anrhydeddwyd ef â'r gradd o D.D. o Brif Athrofa Ohio.
ROBERTS, JOHN (1849—1890).—Blawd fasnachydd a cherddor. Ganwyd ef ym Mangor ar y 9fed o Fedi, 1849. Mab ydoedd i Mr. M. Roberts, Fferyllydd, o'r dref honno. Symudodd i Borthmadog yn ieuanc, at ei ewythr, i'r Felin. Ymunodd yn fuan â chôr y Tabernacl—y pryd hynny, yn ol ei dystiolaeth ei hun, heb fedru nodyn o gerddoriaeth. Cafodd ei benodi'n ysgrifennydd i'r côr. Ymroddodd i ddysgu elfennau