Authority for W. A. Madock to
(1) Make pier
(2) Limits of pier to be
"Circular line circumscriberis the head of the pier and distance therefrom 1 mile & no more and that all vessels lying within 1 mile of the head of the Pier shall be deemed to be within the Harbour.
(3) Power to charge rates, harbour dues,
(4) In case channel or river shall shift, ¾ of duties shall not be payable until the channel is restored.
(5) No authority to divert Traeth Bach river.
Dechreuodd Mr. Madocks ar y gwaith ym mis Mawrth, 1808, ac yn fuan yr oedd ganddo o dri i bedwar cant o weithwyr. o bob rhan o Gymru, gyda'r gorchwyl, ac yn eu plith, yr oedd Twm o'r Nant yn oruchwyliwr y gwaith maen. Bu'r gwaith yn un caled. Yr oedd yr anhawsderau yn llawer, ac yn anhawdd i'w gorchfygu; ond er cymaint y rhwystrau, yr oedd y Morglawdd wedi ei orffen ymhen tair blynedd. Aeth son am yr anturiaeth ymhell, a chlod yr arwr yn fawr gan bawb a welodd ei orchestwaith neu a glywodd am dano, ac nid oedd odid neb drwy Ogledd Cymru na wyddent rywbeth am dano, ac na theimlent ddyddordeb ynddo. Yr oedd Siroedd Arfon a Meirion yn curo dwylaw, gan ogoneddu'r cymwynaswr a ddiddymodd y gwahanfur dyfrllyd oedd gynt rhyngddynt, fel na byddai mwyach unrhyw rwystr i gyfathrach y trigolion â'u gilydd, nac i drafnidiaeth eu masnach. Dywedir fod y Morglawdd mewn rhai mannau yn gan troedfedd o uchder o'i sylfaen, ac yn 400 troedfedd o led yn ei waelod. Drwy'r anturiaeth hon ennillodd Mr. Madocks 2,700 o aceri o dir, yn ychwanegol at y ddwy fil a enillasai yn flaenorol.
Tra y meddyliai pawb fod pob perygl drosodd, ac na welid byth mwy y môr yn marchogaeth y Dyffryn, na'i donnau'n ysbeilio'r eiddo, teimlai Mr. Madocks y gallai ymddiried y lle i ofal ei oruchwyliwr—Mr. John Williams, Tuhwnt i'r Bwlch,—brodor o Fôn, ac aeth oddicartref am ychydig seibiant, â'i fron yn ysgafn, heb feddwl nad oedd eto wedi sefydlu'n llwyr ei fuddugoliaeth. Ar y 14eg o Chwefrol, 1812, cyfododd