Cwmni; ac ar farwolaeth ei dad, yn 1856, penodwyd ef yn brif reolwr,—swydd a lanwodd am 33 o flynyddoedd. Yn ystod ei amser gwnaeth gyfnewidiadau a gwelliantau mawrion ynglyn â'r Rheilffordd, trwy adeiladu gorsafäu, ei helaethu, a'i hagor i gludo teithwyr. Efe oedd cynllunydd y peiriannau ager—y "Mountain Pony," y "Taliesin," &c. Daeth y rheilffordd a'r peiriannau i enwogrwydd, ac ymwelid â hwy gan beiriannwyr o wahanol wledydd, ac efelychwyd ei gynlluniau gan gwmniau parthau eraill. Yr oedd yn gymeriad diymhongar, heddychlon, ac iddo barch gan ei gydswyddogion oll, ac edmygedd llwyraf ei weithwyr. Bu farw ar y 18fed o Dachwedd, 1889, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Beddgelert.
SPOONER, JAMES (1789—1856).—Brodor o Firmingham. Daeth i fyw i Glanwilliam, Maentwrog, ac oddi yno i Dan yr Allt, Tremadog. Yn 1829 symudodd drachefn i Morfa Lodge. Efe, ar gais Mr. Madocks, a gynlluniodd Reilffordd Gul Ffestiniog, o dan ei arolygiaeth y'i gwnaed, a bu'n rheolwr arni am weddill ei oes. Bu iddo ddeg o blant—pump o ferched a phump o feibion a gwnaeth un o bob rhyw enwau iddynt eu hunain—y naill fel awdures, "Gwladus o Harlech ". stori a gyhoeddwyd yng yng "Ngheinion Llen" O. Jones a'r llall fel peiriannydd, sef y Charles E. Spooner uchod. Bu James Spooner farw ar y 15fed o Awst, 1856, yn 67 mlwydd oed.
TEGIDON (John Phillips, 1810—1877).—Argraffydd, clerc, llenor, a bardd, a anwyd yn y Bala ar y 12fed o Ebrill, 1810, ac yno y derbyniodd ei addysg. Cafodd ei brentisio yn argraffydd gyda Mr. Saunderson o'r Bala; yna aeth i Gaerlleon at John Parry, i arolygu ei swyddfa argraffu. Tua'r flwyddyn 1850 gadawodd Gaer a'r argraffwasg am Borthmadog, i arolygu allforiad llechau Cwmni y Welsh Slate; a bu yno hyd ei farw, ar y 28ain o Fai, 1877, yn 67 mlwydd oed. Aed a'i gorff i orffwys i fynwent Llanycil, ger y Bala. Ysgrifennodd Tegidon lawer yn ei ddydd i'r gwahanol gyfnodolion,—y Drysorfa, Gwyliedydd, Seren