Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/205

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd, oherwydd ei henaint a llesgedd, y rhoddwyd iddo gydnabyddiaeth o ddeg swllt yn yr wythnos tra fu byw, ac y penodwyd Mr. John Jones, y clerc presennol, i'r swydd. Bu Job Thomas farw yn y flwyddyn 1885, yn 75 mlwydd oed.—(Cymru, Cyf. xxxviii., tud. 264).

THOMAS, JOHN (1824—1887).—Brodor o Gaernarfon. Symudodd i Borthmadog, tua'r flwyddyn 1850, i fod yn shipping clerk i'r Mri. Greaves. Yr oedd yn Eglwyswr selog a chydwybodol, a bu'n olynydd i William Owen fel arweinydd côr yr Eglwys. Efe, gydag Alltud Eifion, a gychwynodd yr achos Eglwysig ym Mhorthmadog. Efe oedd ysgrifennydd yr Ysgol Genedlaethol a'r Bwrdd Ysgol, hyd ei farwolaeth, ar y 1af o Fawrth, 1887, yn 63 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Ynyscynhaiarn.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Williams, Castell Deudraeth
ar Wicipedia

WILLIAMS, DAVID (1801—1869).—Cyfreithiwr a gwleidyddwr. Mab i David Williams, Saethon, Lleyn, lle y ganwyd ef, yn 1801. Hannai o deulu hynafol. Cafodd fanteision addysg rhagorol, a danghosodd yn fore mai yn dwrne y ganwyd ef. Ymsefydlodd ym Mhorthmadog, a dilynodd ei frawd yng nghyfraith Mr. John Williams—yn oruchwyliwr Ystad Madock. Bu hefyd yn Glerc yr Ynadon, a llanwai bob swydd o bwys ymron yn y lle. Bu'n Uchel Sirydd Meirion yn 1861, ac Arfon yn 1862. Ato ef yr apeliodd gwerin Meirionnydd am un i'w chynrychioli yn senedd eu gwlad. Cydsyniodd yntau i wynebu Etholiad 1859 etholiad a adawodd ei ôl yn amlwg ar lawer teulu yno, ac a brofodd egwyddorion yr etholwyr megis trwy dân. Ni welodd Meirion ond un etholiad cyn hyn, sef yn 1836. Gwrthwynebid Mr. Williams gan yr Yswain o Beniarth. Wedi brwydro'n wrol cafodd ei hun yn y lleiafrif o 40. Er hynny, ni lwfrhaodd ei ysbryd, ond wynebodd yn llawen Etholiad 1865, gyda'r un canlyniad. Wele fel y safai yn y ddau etholiad:—

1859 Mai 11.

Wynn, W. Watkin E. (T.) 390
Williams, David (R.) ... 350