DAVIES, JONATHAN.—Mab i Mr. Pierce Davies,[1] Porthmadog, a brodor o Nantmor, Beddgelert. Derbyniodd ei addysg ym Methania, Nant Gwynant, a Rhyl. Treuliodd y rhan gyntaf o'i fywyd ynglyn â'r chwarelau yn Llanberis, ac wedyn yn Ffestiniog. Yn 1876 ymsefydlodd ef a'i frawd—Mr. Richard Davies yn y fasnach lechi ym Mhorthmadog; a pharhant i'w dwyn ymlaen gyda llwyddiant. Y mae'n un mwyaf adnabyddus y broydd, a'r amlycaf ym mywyd cyhoeddus y dref—yr helaethaf ei brofiad, a'r addfetaf ei farn—ac yn un o'i harweinwyr medrusaf, yn grefyddol a chymdeithasol. Yr oedd yn un o sefydlwyr yr Ysgol Sir ym Mhorthmadog, a phery'n un o'i llywodraethwyr, ac yn un o reolwyr yr Ysgolion Elfennol. Bu'n Llywydd Cymdeithas Llech—fasnachwyr y Deyrnas Gyfunol, 1900—2. Penodwyd ef yn Ynad Heddwch yn 1898. Efe oedd Cadeirydd cyntaf y Cyngor Dinesig (1895-8), Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, a Chymdeithas y Gwelliantau.
DAVIES, RICHARD.—Brawd i Mr. Jonathan Davies, a aned yn Hendre Fechan, Nantmor. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Beddgelert, ac yn y Liverpool Institute. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd i'w dad yn Chwarel Cwmllan. Oddi yno aeth i North Ballachulish, yn Scotland, i fod yn arolygwr chwarel, a bu yno am tua thair blynedd. Ar ei ddychweliad adref aeth i arolygu chwarelau Moelferna a Deeside, Glyndyfrdwy. Yn 1879 ymsefydlodd yn y fasnach lechi ym Mhorthmadog. Y mae wedi cymeryd rhan flaenllaw gyda materion crefyddol a chymdeithasol yn y dref. Y mae yn noddwr ffyddlon i'r Ysgol Sabothol a'i threfniadau yn Nosbarth Tremadog. Y mae hefyd yn un o aelodau mwyaf gweithgar y Cyngor Sir er 1895. Bu'n Gadeirydd y Cyngor, ac amryw o'i bwyllgorau; yn aelod o'r Pwyllgor Addysg o'r cychwyn, hyd Mawrth, 1913, ac yn Gadeirydd amryw o'i is-bwyllgorau.
- ↑ Gwel ysgrif ar Mr. Pierce Davies yn Nhrysorfa, 1884, a Chofianau Cofiawnion (Iolo Caernarfon).