Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/214

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ELLIS, W. T.—Brodor o Bwllheli. Wedi gorffen ei addysg elfennol aeth i fasnachdy yn y dref. Ond gadawodd Bwllheli ym Medi, 1893, i fyned i Ysgol Ramadegol Clynnog, i baratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth. Derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol yn 1894. Yn Ionawr, 1895, aeth i Ysgol Ragbaratoawl y Bala. Ym Mehefin, 1896, pasiodd y Matriculation, ac aeth i Goleg Bangor ym Medi, 1896, ar ol ennill Ysgoloriaeth Bala (£10 am dair blynedd). Aeth i Goleg Aberystwyth ym Medi, 1897, ar ol ennill Ysgoloriaeth Clarke (£30) am dair blynedd; ond nid arhosodd yno ond am ddwy flynedd, gan iddo lwyddo i raddio yn B.A. ym Mehefin, 1899. Aeth i Goleg y Bala yn 1899, gan ennill y Pierce Entrance Scholarship, £50; cadwodd honno ar ddiwedd pob un o'r tair blynedd y bu yno. Graddiodd yn B.D. ym Mehefin, 1902, a derbyniodd alwad o eglwys Aberllyfenni, yng Ngorllewin Meirionnydd; ond gan i'r Pierce Scholarship gael ei rhoddi iddo am y bedwaredd waith ar ddiwedd ei gwrs yn y Bala, rhoddodd yr eglwys ganiatad iddo fyned am naw mis i'r Almaen, a threuliodd yr amser ym Mhrifysgolion Bonn a Berlin. Yn 1905 derbyniodd alwad i'r Garth, fel olynydd i'r diweddar Barch. Thomas Owen, a dechreuodd ar ei waith ym mis Tachwedd. Y mae yn fugail llwyddiannus, yn bregethwr cymeradwy, ac yn arweinydd diogel. Ceir amryw erthyglau o'i waith yn y cylchgronau enwadol a chenedlaethol.

EVANS, EVAN.—Ysgolfeistr a cherddor, a aned ym Mrynaman, wrth droed y Mynydd Du, yn Sir Gaerfyrddin. Y mae'n nai fab cyfnither i Watcyn Wyn. Derbyniodd ei addysg elfennol yn Ysgol Frytanaidd ei bentref enedigol—ysgol y bu enwogion o fri'n brif athrawon ynddi:—George Gill, Thomas Jones, a'r Athro Henry Jones. Arfaethodd ddilyn crefft ei dad yn saer coed ac adeiladydd; ond ar benodiad Mr. Henry Jones yn brif athraw'r ysgol, daeth yn fuan i gysylltiad agos âg ef; ac o dan ddylanwad yr Athro aeth ato'n pupil teacher—swydd y bu ynddi am bum mlynedd. Yna aeth yn llwyddiannus drwy Arholiad y Queen's