Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/215

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Scholarship i fyned i Goleg Normalaidd Bangor. Wedi dwy flynedd yno, aeth yn brif athraw cynorthwyol i Ysgol y Bwrdd, Aberdâr. Cyn pen tair blynedd efe a benodwyd gan yr un Bwrdd Ysgol yn brif athraw Ysgol Cwmdâr, lle'r arhosodd am ddeng mlynedd. Ym Medi, 1893, pennodwyd ef yn olynydd i Mr. Richard Grindley, yn brif athraw Ysgol y Bechgyn ym Mhorthmadog. Yn 1909 gwnaed yr ysgol yn un Uwch Safonnol, gyda Mr. Evans yn brif athraw—swydd a leinw gyda pharch ac anrhydedd hyd heddyw. Bu'n cynrychioli'r athrawon ar Gyngor Addysg y Sir, a chymer ran flaenllaw gyda cherddoriaeth y dref, fel is—arweinydd i'r Gymdeithas Gorawl a'r Gerddorfa.

Bu yn arweinydd Cymanfa Leol yr Annibynwyr amryw weithiau.

EVANS, JOHN RHYS.—Mab i Mr. John Evans, Salop School, Croesoswallt, ac ŵyr i Mr. John Evans, Aberystwyth (Evans y Mathematician)—un o athrawon Dr. Lewis Edwards. Derbyniodd Mr. Evans ei addysg athrofaol ym Mhrifysgol Llunden, lle y bu am ddwy flynedd, ac y graddiodd yn B.A. Oddi yno aeth i Goleg Crist, Caergrawnt, ac etholwyd ef yn Foundation Scholar ymhen dwy flynedd a hanner. Ennillodd ei M.A. mewn Mathematical Tripos. Ar sefydliad yr Ysgol Ganol—raddol ym Mhorthmadog, yn 1894, penodwyd Mr. Evans i fod y prif athro cyntaf iddi.


EVANS, OWEN.—Pregethwr cymeradwy, ac un ddiwinyddion goreu ei enwad a'i genedl. Ganwyd ef ym Mhenmachno: derbyniodd ei addysg yno ac yn Lerpwl. Bu am gyfnod wedyn yn swyddfa John Roberts, A.S. Dechreuodd ar ei waith gweinidogaethol yn Llanfair Caereinion yn 1881. Ordeiniwyd ef yn 1885, tra yng Nghylchdaith Abergele. Ysgrifennodd Esboniad ar yr Epistol at y Galatiaid gogyfer â maes llafur ei enwad. Ystyrir ei "Ddiwinyddiaeth Gristionogol" yn waith safonol. Y mae dwy gyfrol o'r gwaith wedi ymddangos, ac y mae un arall i ddilyn. Y mae wedi bod yn gwasanaethu ei enwad dair gwaith ym