Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/222

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

luoedd a chyfarfodydd eraill, a chydnabyddir ei fod yn llawlyfr rhagorol.

LEWIS, JOHN.—Brodor o Lanelltyd ym Meirion. Cafodd ei addysg yn Ysgolion Elfennol yr Abermaw, a'r Dyffryn. Pan yn 16eg oed daeth i Borthmadog, brif swyddfa'r Ffestiniog Railway. Wedi hynny bu yn shipping office y Welsh Slate Co. Pan beidiodd y Cwmni hwnnw a bod, yn y flwyddyn 1887, aeth efe a'r diweddar Mr. Robert Owen,—prif swyddog y cwmni'n y chwarel, yn bartneriaid mewn masnach lechi. Bu'n aelod o'r Bwrdd Addysg. Gwnaed ef yn Ynad Heddwch yn 1908.


MCLEAN, JOHN CHARLES.—Mab i Mr. a Mrs. McLean, Bank Place. Derbyniodd ei addysg gyda Mr. Grindley, o dan gyfundrefn y Bwrdd Addysg. Ni fwriadodd ei rieni iddo gymeryd cerddoriaeth yn alwedigaeth: meddylient hwy iddo fyned "y tu ol i'r cownter," lle y bu am bedair blynedd. Ond yr oedd cerddoriaeth yn rhy ddwfn yn ei waed iddo aros yno'n hwy. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth gan organydd ei gapel, Mr. W. T. Davies—Ton y Pandy yn awr. Ar ymadawiad Mr. Davies, yn 1894, dewiswyd Mr. McLean yn olynydd iddo. Yn ystod y cyfnod hwn derbyniai wersi cerddorol gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac. (Cantab), Mr. T. Westlake-Morgan, a Dr. F. A. Challinor; a llwyddodd mewn amryw arholiadau. Penderfynnodd fyned am gwrs o addysg i Lunden—a hynny heb gymhorth unrhyw ddyn. Treuliodd ddwy flynedd yn y Royal College of Music, gan astudio o dan yr athrawon, canlynol,—Organ, Syr Walter Parratt; Piano, Mr. Marmaduke Barton; Counterpoint, Syr Frederick Bridge. Mynychai hefyd ddosbarthiadau Dr. James Higgs, Dr. Charles Wood, Dr. F. J. Read, Dr. W. S. Hoyte, a Mr. F. A. Sewell—yr olaf yn neillduol ar Pianoforte Accompaniment. Yn Ionawr, 1901, ennillodd Diploma A.R.C.O. Yn 1902 daeth yn ol i Borthmadog, gan ymsefydlu yn athraw cerddorol, ac yn organydd eglwys Salem. Penodwyd ef yn