o'r Cyngor Dinesig, ac yn Gadeirydd i'r diweddaf o 1905 hyd 1910. Gwnaed ef yn Ynad Heddwch yn 1909.
ROBERTS, JOHN.—Unig fab Iolo Caernarfon. Ganwyd ef ym Mhorthmadog yn 1879. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Porthmadog, ac Ysgol Ramadegol y Bala, 1893—7. Y flwyddyn ddilynol aeth i Rydychen a Manceinion, i baratoi ar gyfer ysgoloriaeth yn y lle blaenaf. Ennillodd hi yn 1899. Y flwyddyn honno dechreuodd bregethu. Aeth eilwaith i Rydychen, 1899—1903, lle y graddiodd yn B.A., gydag anrhydedd yn y Clasuron. Ym Medi, 1903, derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Gymraeg ac eglwys Saesneg Aberdyfi. Yn 1904 ennillodd eilwaith y radd o B.A., y tro hwn gydag anrhydedd mewn Diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yng Nghaernarfon, yn 1905. Yn Ionawr, 1906, aeth i gymeryd gofal eglwys David Street, Lerpwl. Ennillodd ei M.A. yng Ngorffennaf, 1908. Y mae Mr. Roberts wedi esgyn yn fore i reng flaenaf pregethwyr ei enwad. Eleni rhoddodd y Cyfarfod Misol a'i cododd yr anrhydedd arno o bregethu yn yr oedfa ddeg yn Sasiwn Pwllheli. Cyfiawnhaodd yntau eu gwaith, a boddhaodd ddisgwyliadau ei edmygwyr, a phrofodd ei hun yn olynydd teilwng i'w dad enwog.
TRYFANWY, J. R.—Brodor o bentref Rhostryfan; yno y'i ganwyd, ar y 29ain o Fedi, 1867. Ni chafodd ond ychydig o addysg. Pan yn naw mlwydd oed collodd ei olwg a'i glyw yn llwyr, a pharhaodd felly am flwyddyn. Yn 1880 dechreuodd ymadnewyddu drachefn. Symudodd ei rieni o Rostryfan i Dyddyn Difyr, Moeltryfan. Yno collodd ei fam ei hiechyd. Bu am gyfnod yn gweithio yn y chwarel, hyd nes y dechreuodd ei olwg waethygu eilwaith. Pan yn ddwy ar bymtheg oed, gorfu iddo fyned i'r Ysbyty i Lerpwl. Ychydig o leshad a gafodd yno. Collodd ei dad drwy ddamwain yn y chwarel. Aeth y Tyddyn yn dduach, a gorfu iddo ef, a chwaer fabwysiedig, a'i fam glaf, adael y lle. Aethai ei dad yn dlawd wrth suddo'i arian i dir gwael i gadw bywyd ei fam, a cheisio rhoddi ei