PENNOD IX.
Y DIWEDDGLO.
TREM YN OL AC YMLAEN.
O na chawsai Madog ei deilwng wobrwyo,
A medi o gynyrch llafurwaith mor fawr;
Ei arian a'i diroedd, a'i ymdrech diflino,
Ar allor llesoldeb a doddodd i lawr;
Ar wyneb y dyfroedd y bwriodd ei fara,
I fyw ar obeithion gwell amser i dd'od,
Ond eraill a'i cânt wedi llawer o ddyddiau,—
I'r wyrion daw'r enill—i Madog y clod.
—EMRYS.
"Y peth yw Casnewydd i gymoedd Mynwy, a Chaerdydd i lo Cwm Rhondda, hynny ydyw Porthmadog i chwareli Ffestiniog."—O. M. EDWARDS.
CEISIWN daflu'n golwg yn ol ar orffennol Porthmadog, a sylwi ar gamrau 'i hanes,—hanes nad oes i'r un dref yng Nghymru ei debyg. Can mlynedd i heddyw nid oedd yn y lle ond nifer o fân ynysoedd tywodlyd, a phyllau lleidiog. Gwelodd gynnydd a datblygiad cyflym; lluosogodd ei phoblogaeth, cynhyddodd ei mhasnach, a daeth yn dref forwrol o bwys, a'i thrafnidiaeth yn ymestyn i'r gwledydd pellenig; a chlywodd ei galw'n un o drefi pwysicaf Gwynedd. Ni bu llawer o enwogion cenedlaethol a rhan yn ei bywyd. Capteiniaid a chyfreithwyr oedd ei phrif bobl am gyfnod helaeth o'i hoes. Gwannaidd ac ymbleidgar a fu'r enwadau crefyddol yn hir; ac ni feddai'r eglwysi gyfoeth i alw gŵr o athrylith i'w bugeilio. Salem yn unig a lwyddodd i wneud hynny yn yr hanner cyntaf o'r ganrif. Galwodd Emrys; ymlynodd wrtho, a pharchodd ei glod; gadawodd yntau ei ddylanwad yn annileadwy ar ei ol. Bu'r dref yn brwydro'n hir yn erbyn pob gwelliant cymdeithasol o bwys; ac araf