Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/231

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wad mawr yn y dref a'r cylch; ac yn foddion i arwain yn effeithiol gyda'r prif bynciau crefyddol a chymdeithasol. Ond nid yw hyd yn hyn wedi sylweddoli'r disgwyliad hwnnw. Ni fynychir ei gyfarfodydd gan y mwyafrif o'r arweinwyr Ymneillduol ond yn anfynych.

Ond y mae i'r dref, serch hynny, ei rhagoriaethau. Y mae ansawdd ei chwaeth gerddorol mor bur a diwylliedig ag eiddo unrhyw le; ac y mae o ran ei chyflwr moesol i fyny ag unrhyw dref o'i mhaint. Y mae rhif ei thafarnau yn llai o ddwy ar hugain nag oeddynt hanner canrif yn ol. Y pryd hynny yr oedd terfysgoedd ac ymladdfeydd yn bethau cyffredin ynddi: ond heddyw, anfynych y gwelir meddwyn cyhoeddus o'i mhewn; ac ychydig yw'r troseddau a geir ynddi. Nid oes dref yng Nghymru yn fwy egniol dros burdeb na hi. Y mae ynddi, er's dros chwarter canrif, weinidogion yr Efengyl hafal i unman, ac ni bu cenhedlaeth erioed yn gwrando cenadwri lawnach o rymuster, ac o burdeb dilychwin. Deil ei mhanteision addysgol hefyd, o ran eu hansawdd a'u gweinyddiad, gymhariaeth deg â threfydd y Siroedd cylchynol. Ond beth yw ei haddewidion i ni heddyw, ac am ba beth y gobeithiwn yn y dyfodol ? A ddadguddia gwyddoniaeth ini gyfoeth newydd yn ein broydd; a egyr y mynyddoedd eu trysorau yn helaethach ini; a welir eto ein masnach yn ei rhwysg cyntefig?