PENNOD II.
CODIAD, CYNNYDD, A DADBLYGIAD Y DREF.
Diwyllier, trefner y Traeth
Yn baradwys bur, odiaeth;
Boed bob cam o'r Morfa Mawr
Yn dyddynod addienwawr.
Y Traeth fo'n gnwd toreithiog—
Bwrw'r yd bo llwybrau'r og;
Gwisger, addurner y ddol
A chnwd o haidd marchnadol.
Doed cynnydd, peidied cwynion
Tre' ar dir fu'n gartre'r donn.
—EMRYS.
"Lle cymharol newydd yw Porthmadog. Yr oedd yr holl fro yn y môr ar ddechreu y ganrif ddiweddaf. Ar ol cychwyn cynyddodd yn gyflym, a bu am gryn dymhor yn moreu ei bywyd yn llwyddianus dros ben."—IOLO CAERNARFON.
PAN orffenwyd y Morglawdd, nid oedd y llecyn y saif Porthmadog arno'n awr ond anial tywodlyd. Deuai ambell i long, y mae'n wir, i le a elwir Ynyscyngar; ond bychan oedd y drafnidiaeth, oherwydd fod perygl mawr i longau redeg i'r lan pan gyfodai ystorm, gan mor noethlwm ac agored oedd y fan. Ond wedi gorffen Morglawdd Madocks, deuai'r dwr i mewn o'r Traeth Mawr trwy'r dorau a wnaed i'r diben hwnnw ar ochr Sir Gaernarfon, a chludwyd ymaith y tomenydd tywod gan rym y llifeiriant, gan adael sianel ddofn gydag ochr y graig. Gwelwyd yn fuan fod yn bosibl gwneud porthladd yn y lle a elwir yn awr Porthmadog.
Rhagwelai Mr. Madocks bosibilrwydd y lle fel porthladd, a daeth a mesur i'r senedd i gael hawl i ffurfio harbwr yno, ac i sicrhau'r tollau arferol iddo ef. Er gwaethaf pob gwrthwynebiad llwyddodd gyda'r