Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mesur, a daeth yn ddeddf ar y 15fed o Fehefin, 1821. Wele grynhodeb o'r Ddeddf:—

Geo. 4. Chap. 115. 15 June 1821.

Recciting that W. A. Madock by issuing a large body of in— land waters thro' a main sluice has excavated a commodius and well established Harbour at a place extending from Garth Pen— clogwyn to Ynys Tywyn but does not afford sufficient security and that, W. A. Madock is proprietor of the land comprising the Harbour and desires to make a pier.

It is ordered that commissioners should set apart of soil of all Marsh or other lands in lieu of the rent.

That W. A. Madocks has power to make pier.

That if embankment is damaged and not repaired within 12 months all powers given by Act to be void.

Limits of Harbour, line from extreem point from embank— ment of certain lands called Trwyn Penrhyn to extream point from embankment to Garth Penclogwyn, and from such line to embankment."

Adeiladwyd y porthladd gan Griffith Griffiths, a ddaeth o Ddolgellau gyda'i bedwar mab, Griffith, Ellis, Evan a Robert, i weithio i Mr. Madocks. Daeth Robert Griffith yn un o brif adeiladwyr Porthmadog. Efe a adeiladodd Gei y Welsh Slate Co., y Cob o amgylch y "Llyn Bach," a'r pedwar tŷ yn High Street ag y mae Bodlondeb yn un o honynt. Adnabyddid ef yn niwedd ei oes fel Robert Griffith y Calchiwr." Wyr i Griffith Griffith—mab i Evan Griffith—ydoedd Mr. John Robert Griffith (yr Hafod)—blawd-fasnachydd ar raddfa eang, a gariai ei fasnach ym mlaen ym Marchnadfa Tremadog. Gorffenwyd adeiladu'r porthladd erbyn diwedd y flwyddyn 1824.

Cyn pasio y Ddeddf uchod, nid oedd ond tri tŷ yn y man y saif Porthmadog arno'n awr, heblaw Ynystowyn—tŷ a swyddfa Mr. John Williams, goruchwyliwr Mr. Madocks. Wedi hyn y bathwyd yr enw Porthmadog, Y Traeth, neu'r Tywyn, y gelwid y lle cyn hynny.

Er mai Tremadog ydoedd tref-briod Mr. Madocks, eto gwelai mai mantais i fasnach a chynnydd y cwmwd