fyddai tref fwy cyfleus, ac agosach i'r porthladd; a gwnai ei oreu i gymell adeiladu yno. Mewn llythyr a anfonodd at ei weithiwr ffyddlon, Mr. John Etheridge, ar yr 28ain o Ebrill, 1828, sef blwyddyn ei farwol— aeth, dywed:—
"I had planned in my own mind a good thing for you, about building at the new Town at Towyn. I intend to let you a lease of a piece of ground at Towyn to build on, the same as John Williams and his friends, and if you will get together a good set of masons to join you, you will have £500 lent you, to begin to build on the ground of which you shall have a lease. With your own workmanship as carpenter, and a good mason joined with you, and 500 pounds, you might make some good houses at Towyn in a Lane the same as John Williams, and let them well."
Ond cyn y gellid dadblygu'r lle, yr oedd yn rhaid ei ddwyn i gysylltiad â rhyw gymdogaeth yn meddu adnoddau gweithfaol. Tua'r adeg hon yr oedd un chwarel lechi yn Ffestiniog yn weddol lewyrchus, sef eiddo y Mri. Turner a Casson, ac o hon anfonid i ffwrdd yn flynyddol tua 10,000 o dunelli o lechi. Y mae'n wir fod amryw chwarelau eraill wedi eu hagor. Dechreuasai Arglwydd Newborough chwilio am lechi ychydig cyn hyn, ond braidd yn siomedig fu'r ymgais. Yr oedd chwareli eraill wedi eu hagor yn y Manod ac ar dir y Goron, ond ni buont yn llwyddiant. Nid oedd ychwaith ond ychydig lechi yn chwarel Roberts Lloyd yn ymyl Bwlch Carreg-y-fran. Yn 1820 llwyddodd Mr. Samuel Holland i sicrhau prydles ar dir Mr. W. G. Oakeley yn Rhiwbryfdir, ac yno agorwyd chwarel a ddaeth yn fuan yn bur lewyrchus. Effeithiodd rhagolygon disglair y chwarel hon yn fawr ar gynnydd a llwyddiant Porthmadog.
Mewn cydweithrediad â Mr. Madocks, adeiladwyd cei bychan gan Mr. Holland, a gwnaed amryw welliantau eraill i hwyluso trafnidiaeth y porthladd. Cwblhawyd y gwaith hwn ar yr 21ain o Hydref, 1824, a dyma'r adeg y dechreuodd Porthmadog gynhyddu mewn gwirionedd. Deuai llongau'n gyson i'r lle i gyrchu llechi a ddygid i'w cyfarfod mewn cychod i lawr