y Traeth Bach. Yr oedd yn gyffredin oddeutu ugain o'r cychod hyn, a charient tua chwe thunell, a byddai dau ddyn yn gofalu am bob cwch. Y cychod hyn hefyd a garient y nwyddau oddiwrth y llongau i gyfeiriad Aber Glaslyn. Yehydig dai oedd yno hyd yn hyn, a bychan mewn cymhariaeth oedd y fasnach; ond fel y llwyddai'r chwarelau yn Ffestiniog cynhyddai Porth— madog mewn poblogaeth a phrysurdeb. Ond yr oedd un peth eto'n rhwystr mawr i lwyddiant y porthladd, sef y drafferth a'r draul i gludo'r llechi o Ffestiniog i gyrhaedd y llongau ym Mhorthmadog. Deuid a hwy o'r chwarelau i'r Traeth Bach mewn troliau; ond wrth fyned ymhellach yn ol gwelwn nad oedd ganddynt ond meirch a mulod i'w cludo. Yna rhoddid y llechi mewn cychod i ddod a hwy i lawr y Traeth, a llwythid hwy o'r cychod i'r llongau. Gwelsai Mr. Madocks, yn 1814, fod yn rhaid cysylltu'r ddau le â'u gilydd cyn y gallesid gobeithio am lwyddiant mawr i'r naill le na'r llall. Yn y flwyddyn honno ysgrifennodd lythyr yn awgrymu'r priodoldeb o wneud ffordd haearn o Ffes— tiniog i ddod â'r llechi i lawr i'r porthladd yn uniongyrchol. Yn 1822 aeth i'r Senedd eilwaith i ymofyn hawl i wneud un.
William 4. Chap. 48. 23 May, 1822.
"Power to make Railway o'r Tramroad. From Quay at Portmadoc to Quarries Rhiwbryfdir and Duffwys in Parish of Festiniog."
Yn 1824 mesurwyd y llinell dan gyfarwyddyd Mr. Madocks, ond ni lwyddodd ef i fyned ymhellach na hyn. Y nesaf i symud ymlaen gyda'r cynllun hwn oedd Mr. Holland (ieu.), yr hwn a ymgymerodd â'r gwaith gyda Mr. Henry Archer, a than gyfarwyddyd y diweddaf gwnaed mesuriad drachefn gan Mr. Spooner.
Yn 1831 llwyddodd Mr. Holland i gyflwyno mesur i'r Senedd i roi awdurdod iddo i wneud ffordd haearn, ond oherwydd gwrthwynebiad masnachwyr, tafarnwyr, cludwyr a chychwyr, yn Ffestiniog, Maentwrog, ac ar