hyd glannau'r Traeth Bach, gwnaed pob ymdrech i ddinystrio'r mesur, a thaflwyd ef allan.
Ond y flwyddyn ddilynol daeth y mesur drachefn o flaen y Senedd, a derbyniodd y cydsyniad brenhinol ar y 23ain o Fai, 1832. Ar y 26ain o Chwefrol, 1833, dechreuwyd ar y gwaith, ac erbyn mis Ebrill, 1836, yr oedd y "Rheilffordd Gul" wedi ei chwblhau. Ni ddefnyddid y ffordd haearn ar y cyntaf ond gan Mr. Holland yn unig; ond yn 1839 gwelodd y Welsh Slate Company fanteision eithriadol y rheilffordd hon, ac o hynny allan dygid eu llechi hwythau o Ffestiniog i Borthmadog ar hyd-ddi.
Yr oedd cyfalaf y Cwmni yn £25,000, a benthyciwyd £14,000 i gwblhau'r anturiaeth, a chyrhaeddai'r elw blynyddol chwech, saith, neu wyth y cant. Tua chanol y ganrif ddiweddaf cludai o 45,000 i 50,000 o dunelli o lechi bob blwyddyn i Borthmadog, a chludai'n ol i gymydogaeth y Chwareli tua 2,000 o dunelli o lo, calch, haearn, blawd, ac amrywiol nwyddau.
Oherwydd fod y rheilffordd hon, wrth fyned ar hyd y Morglawdd, yn myned a'r ffordd yr elai'r teithwyr a'r cerbydau'n flaenorol, bu rhaid darparu ffordd newydd trwy wneud y rhan a alwn ni heddyw Y Cob Isaf. Yr oedd y Tolldy cyntaf gerllaw Ynys-Towyn, a rhentid ef i bersonau, gan werthu'r hawl o'r tollau i'r uchaf ei bris. Mewn llythyr a anfonodd Mr. Madocks at John Etheridge, ar y 15fed o Fai, 1826, dywed fel hyn:—
John,—
Are you sure Williams the Baker bid 189£ for the Tolls. Let me know particulars.
A gellir meddwl oddiwrth hynny yr ystyriai'r pris yn un boddhaol.
Tua'r flwyddyn 1860 symudodd Mr. David Williams y Tolldy i ochr Meirionydd i'r Morglawdd, lle'r erys hyd heddyw.
Nid cysylltu Ffestiniog a Phorthmadog â'u gilydd yn unig a fu ymdrech olaf Mr. Madocks. Ceisiodd