hefyd gan y Llywodraeth i fabwysiadu Porthdinlleyn, yn lle Caergybi, i fod yn dramwyfa o'r Iwerddon i Lunden, trwy Dremadog, Beddgelert, a'r Amwythig; ond oherwydd fod drwg deimlad yn bodoli rhwng rhai o aelodau'r pwyllgor a benodwyd i wrando teilyngdod y cynhygion, collodd y cynllun trwy un bleidlais. hon fu ei ymgais olaf i ddadblygu'r fan a garai mor fawr.
Yn 1828 ymneillduodd i'r Cyfandir, a bu farw ym Mharis ym mis Medi'r flwyddyn honno, wedi diwrnod da o waith, gan adael ei wlad yn well o'i ôl, a'i genedl yn gyfoethocach erddo.
Wrth weled llwyddiant yn dilyn agor y Rheilffordd, a chan ddisgwyl llwyddiant mwy, treuliwyd miloedd o . bunnau gan ymddiriedolwyr ystad Madocks i wneud gwelliantau yn y porthladd a'r Cei. Helaethwyd y Cei drachefn i dderbyn llechi y gwahanol gwmniau eraill, a gwneud glanfa a morglawdd—yr oll yn costio oddeutu deng mil o bunnau. Cynnyddodd y dref yn gyflym. Dechreuwyd o ddifrif adeiladu tai a masnachdai, nodwyd allan heolydd newydd, a rhoddwyd bob cefnogaeth i rai ddyfod i drigo yno.
Dechreuwyd hefyd adeiladu llongau, ac yn fuan iawn daeth y gwaith hwn yn rhan bwysig o fasnach y lle, ac yn elfen amlwg yn ei gynnydd, a'i lwyddiant. Erbyn 1838 yr oedd Porthmadog yn dref o fri, a sylweddolwyd i raddau rai o freuddwydion disglair y gwr a roddodd i lawr sylfeini ei chynnydd, sef Mr. Madocks.
Gallwn ffurfio syniad gweddol gywir am gynnydd y lle trwy sylwi ar gynnydd y boblogaeth yn ystod yr hanner cyntaf o'r ganrif ddiweddaf. Anodd yw cael ffigyrau am Borthmadog yn unig, ond wrth gymeryd nifer trigolion plwyf Ynyscynhaiarn tybiaf na chyfeiliornir ymhell. A gadael allan Borthmadog, poblogaeth lled sefydlog sy'n y plwyf. Y mae'n debyg nad yw wedi amrywio llawer yn ystod hanner canrif. Dyma'r cyfrif bob deng mlynedd o 1801 hyd y flwyddyn 1851:—