masnachol yn gyfatebol; ond ni ellir dweyd hyn mwyach.
Er fod Porthmadog yn dref gynhyddol yn 1850, yr oedd ei chyflwr cymdeithasol yn anfoddhaol iawn, os ydym i dderbyn fel gwirionedd y pethau a ddywedir gan ysgrifennwyr y cyfnod hwn. Yr oedd nifer weddol o dai helaeth a chysurus, ond dywedir fod amryw o deuluoedd yn byw mewn selerydd gwlyb ac oerion, a llawer o dai wedi eu gorlenwi. Heblaw hynny, cyfyngid ar y tai, oherwydd amharodrwydd y tirfeddianwyr i osod tiroedd i adeiladu ac i wneuthur y cyfleusderau angenrheidiol, fel mai amhosibl oedd i'r preswylwyr gael lle i ddodi'r ysgarthion, ac i ddarparu cyfleusderau eraill. Nid oedd unrhyw fwrdd cyhoeddus i edrych ar ol y lle, a gadewid i'r trigolion ymdaro drostynt eu hunain goreu y gallent. Aflan oedd yr heolydd, a'r lleoedd o'r neilldu, ac anfoddhaol iawn ydoedd y mannau cyhoeddus,—ni ofalai neb am gysur a glanweithdra. Nid aethai neb, hyd yn hyn, i'r drafferth a'r draul o wneud carthffosydd; a phrin, a gwael ei ansawdd, oedd y cyflenwad o ddwfr glân i'r lle. Cyndyn iawn oedd y gwyr cyhoeddus i symud ymlaen i geisio gwelliantau. Ond yr oedd rhai yn enwedig Mr. David Williams, Castell Deudraeth—yn fyw i gyflwr anfoddhaol Porthmadog, ac yn gwneud eu goreu i geisio cynhyrfu'r trigolion i gael diwygiad.
Fel canlyniad i'w hymdrechion hwy, anfonwyd deiseb i'r awdurdodau yn Llunden, yn erfyn am i ymweliad swyddogol gael ei wneud i gyflwr y dref. Cynhaliwyd yr ymchwiliad ar y 10fed o Fehefin, 1857, ac wele'n dilyn gynnwys yr adroddiad a dynnwyd allan gan Alfred L. Dickens, Ysw., C.E., Superintending Inspector, i'w gyflwyno i Lywydd Bwrdd Iechyd:—"On the Sewerage, Drainage, supply of water and sanitary condition of the Inhabitants of the Parish of Ynyscynhaiarn in the County of Carnarvon."
Dyddiad yr adroddiad yw Gorffennaf 1, 1857.
Wele ddyfyniadau ohono:—