mawr i fasnach, a thrwyddynt ychwanegwyd yn ddirfawr at gysur a chyfleusderau preswylwyr y lle ac ymwelwyr. Un o'r gwelliantau hynny ydoedd agoriad
Lein Bach, o Borthmadog i Ffestiniog, fel rheilffordd gyhoeddus, yr hyn a gymerodd le y 23ain o Hydref, 1863. Cyn hyn tynid y wageni llechi gan geffylau, ond yn awr cafwyd peiriant ager, trwy offerynoliaeth y peirianydd medrus, Mr. Charles Easton Spooner, ac yn 1865 agorwyd y lein i gludo teithwyr. Bu hyn yn gaffaeliad nid bychan i deithwyr. Gwelir pwysigrwydd y cam hwn pan gofiwn nad oedd yr un ffordd haearn arall yn rhedeg trwy Borthmadog ar y pryd; felly rhaid oedd i'r trigolion a'r masnachwyr ddibynnu ar wageni'r Lein Bach, neu gerbydau eraill. Tua'r un adeg gwnaed paratoadau i ddyfod a Llinell y Cambrian o'r Abermaw trwodd i Bwllheli, ac agorwyd hi ar y 10fed o Hydref, 1867. Trwy y llinell hon cysylltwyd Porthmadog â'r byd mewn ystyr drafnidiol. Tybid y buasai gwneud Llinell y Cambrian yn hwylusdod i ddod ac ymwelwyr wrth y cannoedd i'r lle; ond er na sylweddolwyd y disgwyliadau hyn yn llawn, nid oes ddadl na fu'n gymorth mawr i ddwyn dieithriaid i weled rhyfeddodau Eryri. Dichon na fu o nemor help i ddadblygu adnoddau y gymdogaeth, nac i gyfoethogi Porthmadog; ond profodd yn gyfleustra mawr i fasnach y lle. Dygir miloedd o ymwelwyr i'r ardal ar eu taith i weled Beddgelert a mannau eraill, a phriodol y gelwir Porthmadog yn Borth Eryri. Y mae'r pentref sydd ar y ffiniau, sef Borth y Gest, ar gynnydd, a nifer yr ymwelwyr yn lliosogi o flwyddyn i flwyddyn. Ymhen rhai blynyddoedd cysylltwyd Ffestiniog â'r Bala, gan Linell y Great Western, ac â Bettws y Coed a Llandudno, gan Linell y London a North Western. Cyn hyn dibynai ardal boblog Ffestiniog bron yn gyfangwbl ar y Lein Bach am ei nwyddau, ond bu agoriad y ddwy Reilffordd a enwyd yn hwylusdod mawr i'r trigolion i ddod i gysylltiad mwy uniongyrchol â chanolfannau pwysig masnachol, sef Lerpwl, Manchester, a Llunden. Nid oes amheuaeth na ddygwyd rhan helaeth o fasnach Porthmadog oddiarni trwy y cyfnewidiadau hyn, gan ei bod