yn dibynu cymaint ar ardaloedd a phentrefi eraill am ei hadnoddau. Yn y flwyddyn 1901 pasiwyd Deddf Seneddol, yn rhoi awdurdod i'r "Portmadoc, Beddgelert and South Snowdon Railway Company," i ddod a'r Rheilffordd Gul, sy'n cychwyn yn Dinas ac yn terfynu yn Rhyd Ddu, trwy Feddgelert i Borthmadog. Gelwid y lein hon yn Llinell Drydan (o dan yr enw Gallu Trydanol a Symudol Gogledd Cymru). Torrwyd y dywarchen gyntaf i'r llinell hon yn Ionawr, 1904. Y prif gymerwyr oeddynt Mri. Bruce Peebles a'i Gyf., Edinburgh. Yn 1908 cafwyd awdurdod Seneddol drachefn i'w hymestyn o Feddgelert i Gapel Curig, a thrachefn yr un flwyddyn i fyned â hi o'r Dinas i Gaernarfon. Gwariwyd miloedd ar yr anturiaeth hon; ond trwy ryw anghaffael, bu raid gadael y gwaith ar ei hanner. Gresyn hynny, gan y buasai y rheilffordd ysgafn hon yn sicr o ychwanegu llawer at lwyddiant Porthmadog, trwy ei chysylltu âg ardaloedd y Wyddfa.
Ym mlynyddoedd cyntaf y 50's agorwyd chwarelau Isallt a Gorseddau, yn Nyffryn y Pennant a Chwmstradllyn, a dilynwyd hwy gan chwarelau Moelfra, Hendre Ddu, a Chwmtrwsgwl. Yn y flwyddyn 1858 agorwyd rheilffordd i gludo'r llechi a wneid yn chwarelau'r ardaloedd hyn i gyrhaedd y llongau. Bu'r chwarelau hyn yn bur lwyddiannus am gyfnod o tuag ugain mlynedd; ond ers llawer blwyddyn bellach, nid oes gwaith yn yr un o honynt, ac nid oes ychwaith ond olion ac enw'r Ffordd Haearn Bach ar gael.
Y mae ffordd haearn arall i gludo llechi o chwarelau'r Rhosydd a Chroesor yn rhedeg ar hyd y Traeth Mawr i Borthmadog.
Yn gyfochrog â chynnydd y moddion trafnidiol i Borthmadog, helaethid a pherffeithid yr harbwr, trwy ychwanegu at rif y ceiau i gyfarfod â galw'r llwytho, fel ag y mae heddyw gynifer a naw o geiau cyfleus yn: y porthladd:
Y Cwmniau. / Rhif y Ceiau
The Oakeley Slate Quarry Ltd. / 3
J. W. Greaves and Sons, Ltd. / 2..
Davies Brothers ./ 1