hugain. Gellir priodoli'r cynnydd hwn i'r prysurdeb mawr fu'n y gwaith o adeiladu llongau, ac yn enwedig i fywiogrwydd eithriadol y fasnach lechi yn ystod y 70's. Dyma gyfnod euraidd y fasnach, a dyma'r adeg hefyd y cyrhaeddodd tref Porthmadog ben llanw ei llwyddiant. Dechreuodd y dirywiad amlwg tua diwedd 1878, a chafwyd llawer o flynyddoedd dirwasgedig hyd 1894, pan yr adfywiodd y fasnach lechi drachefn. Ond lleihau yr oedd poblogaeth Porthmadog er y cwbl, a buasai'r lleihad yn amlycach oni bai am gynnydd Borth y Gest yn ystod yr un cyfnod.
Yn dilyn, wele dabl yn dangos nifer y tunelli o lechi a allforiwyd o Borthmadog yn flynyddol er gorffeniad y porthladd:—
Gwelir oddi wrth y daflen uchod i'r cynnydd fod yn weddol sefydlog hyd y 70's, ac mai yn y flwyddyn 1874 y dechreuodd y llanw droi-llanw na ddychwelai'n ol ond unwaith mewn deng mlynedd. Gwelir hefyd mai'r flwyddyn 1892 sy'n cario'r llawryf—ond tywysen lawn ym mysg tywysennau teneuon oedd honno. Trist sylwi i'r llanw dreio mor bell erbyn hyn, ac nad yw ffigyrau'r