Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chennog presennol—Mr. Robert Williams. Tua'r flwyddyn 1850 sefydlwyd yr Union Iron Works,—y pryd hynny yn Ffatri Tremadog, ond symudwyd oddi yno cyn pen hir i Borthmadog, a daeth y gwaith i'w adnabod fel eiddo y Mri. Owen Isaac ac Owen.

Yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd y Felin Flawd gan y Mri. M. a J. Roberts,—brodorion o Fangor. Yn 1890, prynwyd hi gan gwmni o Lerpwl—y Mri. W. a J. Caroë—a hwynthwy yw y perchenogion presennol, a chariant y fasnach ymlaen o dan yr enw "The Portmadoc Flour Mills Co."

Sefydlwyd dau Ariandy yn y dref mor fore a'r flwyddyn 1836—y National and Provincial Bank of England, a'r North and South Wales Bank—y naill yn nhŷ y Capten Richard Pritchard yn Lombard Street, a'r Capten yn rheolwr arno, a'r llall ym mhen y Cei. Dywed Mr. Owen Morris i banic gymeryd lle ym myd yr arianwyr, ac i'r North and South Wales Bank fethu a dyfod trwyddo, fel y cauwyd ei fanciau. Ymhen ysbaid gwnaed trefniadau i'w hail agor mewn gwahanol leoedd yng Nghymru, ond ni wnaed hynny ym Mhorthmadog. Ond sefydlwyd ariandy arall yn ei le gan y Mri. Casson o Ffestiniog, ym mhen y Cei—swyddfa bresennol y Mri. Prichard, y brokers, a buont yno hyd y flwyddyn 1865, pryd y symudasant i fan mwy canolog erbyn hyn, gan adeiladu ariandy yn High Street. Yn 1877 ymneillduodd y Mri. Casson, a gwerthwyd y busnes i'r North and South Wales Bank. Yn 1908 unwyd y N. & S. W. gyda'r London City and Midland Bank Co., Ltd., ac o dan yr enw hwnnw y cariant y busnes ymlaen heddyw. Yn 1871 sefydlwyd ariandy arall yn y dref, sef cangen o'r Carnarvonshire District Bank, o dan reolaeth Mr. Robert Rowland. Yn 1888 prynwyd ef gan y National Bank of Wales, hyd oddeutu'r flwyddyn 1893, pryd y prynwyd ef gan y Metropolitan Bank of England and Wales.

Yn fuan wedi i Rowland Hill gario'i welliantau pwysig yng nghyfundrefn y Llythyrdŷ yn 1840, a sefydlu'r llythyrdoll ceiniog, agorwyd Llythyrdŷ ym Mhorthmadog, yn y fan lle y saif y Clwb Ceidwadol