Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

30ain o Awst, 1905. Ar y 9fed o Ionawr, 1907, gwnaed archeb gan y Cyngor Sir, yr hon a gadarnhawyd gan un arall yr ail o Orffennaf, 1907, o eiddo'r Llywodraeth Leol, i'r diben o drosglwyddo'r awdurdod a'r dyledswyddau dan y Ddeddf Claddu oedd yn eiddo Dosbarth Ynyscynhaiarn, a rhanbarth Uwchyllyn, oddiar Gyngor Dinesig Ynyscynhaiarn fel awdurdod claddu, i Gyngor Dinesig Dosbarth Ynyscynhaiarn a Chyngor Plwyf Treflys, a'r awdurdodau a'r dyledswyddau i'w gweithredu gan bwyllgor unedig, wedi ei nodi gan y ddau Gyngor crybwylledig. Daeth yr archeb hon i weithrediad ar yr ail o Orffennaf, 1907.

Gwerth trethiannol y Plwyf ar y 25ain o Chwefrol, 1913, tuag at amcanion Treth y Tlodion, £17,292 15s.

Gwerth trethiannol at amcanion Treth cyffredinol y Dosbarth (Treth y Cyngor), £15,298 17s. 6c.

Swm Treth y Tlodion yn y bunt am y flwyddyn yn diweddu 31ain o Fawrth, 1913, 5/2.

Swm Treth y Cyngor yn y bunt am y flwyddyn yn diweddu 31ain o Fawrth, 1913, 2/8.

Gan fod hanes llawn i'w roddi yng nghorff y traethawd ar gynnydd addysg a chrefydd ym Mhorthmadog, boddlonaf yn y bennod hon ar nodi'r ychydig ffeithiau canlynol.

Yn y flwyddyn 1838 adeiladwyd Ysgol Pont Ynysgalch, a chariwyd yr addysg ymlaen o dan y Gyfundrefn Frytanaidd. Safai'r ysgol hon ar y fan y saif y Queen's Hotel arno'n awr.

Yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd Ysgol Genedlaethol, a chynhelid hi â rhoddion gwirfoddol ac â thâl y plant.

Yn y flwyddyn 1869 adeiladwyd Ysgol Chapel Street (y Frytanaidd).

Dyna'r ysgolion cyhoeddus hyd sefydliad y Bwrdd Addysg yn 1878.

Nid oedd dref yng Nghymru ag amgenach manteision addysg na Phorthmadog. Sefydlwyd yr Ysgol Ganolraddol yn 1894, a gwnaeth waith rhagorol er pan agorwyd hi, a pharha i droi allan fechgyn sy'n glod i'w hysgol ag i'w gwlad.