Clywsom lawer o feio ar flaenoriaid y Methodistiaid oherwydd y tro. Y mae'n wir fod ymddygiad o'r fath yn ymddangos yn ddyeithr yng ngoleuni'r dyddiau hyn. Yr ydym yn sicr fod yr hen bobl dda yr oes honno yn gweled llawer mwy o ryfeddod yn ymddygiad un blaid yn gofyn, nac yn ymddygiad y blaid arall yn gwrthod. Y mae'r oes yn fwy cyfrifol am y weithred honno na'r personau. Yn wir, yr oedd rhywbeth i'w edmygu yn yr hen bobl dda a wrthodasant roddi gwasanaeth Capel Tremadog i Benjamin Jones, Pwllheli. Dyna engraifft o wroldeb. Yr oedd y gweinidog a'r blaenoriaid yn ddeiliaid ar ystad Madocks. Yr oedd gwraig ieuanc yr agent trwy ei gwr, wedi gwneud y cais. Yr oedd gan y goruchwyliwr hwnnw fwy o awdurdod na'r hyn sy'n meddiant y gwyr sydd yn sidellu pleidleisiau yn y dyddiau hyn; a mwy na'r cwbl, yr oedd y boneddwr a'r blaenoriaid yn gyfeillion cynnes i'w gilydd. Ond ni wyrent drwch blewyn o'u ffordd! Safasant o blaid y ffydd fel dynion. Ac os deuai Annibyniaeth neu rhyw "aeth" arall yn agos i'r lle gofalent na ddeuai drwy eu hareithfa hwy. Adwaenom y dynion hynny yn dda. O! na chaem fwy o rai tebyg iddynt. Buont lawer gwaith ar ol hynny yn agor eu pwlpud yn llawen i bregethwyr o enwadau eraill. Yr oeddynt yn medru symud gyda'r oes. Heddwch i lwch John Jones, Tremadog, William Wiliams, Lanerch; a William Roberts, "Farm Yard."
Buasai'n groes i'r natur ddynol ddisgwyl i amgylchiad felly fyned heibio heb niweidio rhywfaint ar deimladau pâr ieuanc o safle Mr. a Mrs. Williams, a'r canlyniad fu, iddynt agor Ysgol Sabothol mewn ystafell yn gysylltiedig â'r tŷ. Ymdaflodd Mrs. Williams i'r gwaith, ac ymgymerodd ei hunan â dosbarth o enethod. Wrth weled hynny'n llwyddo, gwnaed trefniadau i gael pregeth ar y Sabath; ac yn achlysurol ar nosweithiau'r wythnos, a chafwyd lle i'r diben hwnnw mewn rhan o Tregunter Arms. Credir mai'r bregeth gyntaf a gafodd yr Annibynwyr ym Mhorthmadog oedd gan y Parch. J. Williams, Ffestiniog ar y pryd,—Llansilyn a'r America wedyn. Dilynwyd ef gan amryw o weinidogion yr enwad o Arfon a Meirion, sef y Parchn. Lewis Pwllheli, Davies Trawsfynydd, Griffiths Bethel, Rowlands Rhoslan, a Davies Ffestiniog. Yn y flwyddyn 1825 daeth y Parch. John Evans o Carmel, Amlwch, i wneud ei gartref a diweddu ei ddyddiau gyda'i ferch, —priod J. C. Paynter, Swyddog y Doll, i Lan y Donn, Minffordd. Bu dyfodiad Mr. Evans i'w plith yn sirioldeb mawr i'r achos yn ei fabandod, er nad oedd ei