nerth yn gryf,—oherwydd dioddefai oddiwrth ganlyniad ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i ddilyn ei alwedigaeth; ond cafodd fod o help a chysur, gyda'i ddoethineb, a'i gyngor parod, am gyfnod o ddwy flynedd ar hugain. Parhaodd yr achos i gynhyddu'n rheolaidd, a balch oedd yr aelodau o hynny, ac aberthent lawer erddo. Wrth ei weled yn parhau i lwyddo, rhagolygon y dre'n gwella, a'r preswylwyr yn cynhyddu, ymgynghorodd yr aelodau ynghyd ynghylch y priodoldeb o gael capel addas iddynt addoli ynddo. Oherwydd y rhan a gymerai ei briod yn y gwaith, cymerai Mr. J. Williams ddyddordeb mawr yn yr achos, ac awyddai i wneud a allai er ei lwyddiant. Hyd yn hyn, nid oedd ym Mhorthmadog unrhyw fath o ysgol ddyddiol, oddigerth yr un gadwai'r hen forwr methedig, William Griffith. Gan mai morwriaeth yn bennaf a ddysgai efe, penderfynwyd cael adeilad a wasanaethai'r ddau amcan—addysgol a chrefyddol. Gyda Mr. Williams yn brif hyrwyddwr y mudiad, penderfynwyd ar ddarn o dir cyfleus, a chafwyd prydles am gant namyn un o flynyddoedd. Codwyd capel a thŷ gerllaw iddo, ar y draul o dri chant, a chasglwyd tuag ato yn yr ardal £67 3s. 11c.
Yr oedd cael gwr o brofiad a dylanwad Mr. Williams i gymeryd y fath ddyddordeb yn y gwaith, yn fantais werthfawr, nid yn unig gyda'i gyngor, ond hefyd gyda'r gwaith o gasglu tuag ato. Efe hefyd a edrychai ar ol y cyfan ynglyn â'r capel newydd hyd ddiwedd y flwyddyn 1832.
Erbyn dydd agoriad y capel yr oedd y swm o gan punt wedi ei sicrhau. Cynhaliwyd cyfarfod i'w agor ar yr 20fed a'r 21ain o Fehefin, 1827. Gwasanaethwyd gan y Parchn. William Williams o'r Wern, Breese Lerpwl, Ridge y Bala, a Lewis Pwllheli. Yr oedd yr oll o'r eisteddleoedd wedi eu cymeryd ar ddydd ei agoriad, a cheir enwau'r cymerwyr oll yn ysgrifau Mr. Ambrose, ond nid oedd rhif y cyflawn aelodau ond saith. Yn yr amser hwn daeth Mr. Richard Jones i Ysgol Tremadog, o Ddolyddelan. Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr poblogaidd, ac yn weithiwr diwyd. Pre-