Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gethai'n fynych yn y capel newydd, ac ym Morfa Bychan; ond yn fuan wedi hyn gadawodd Ddyffryn Madog i fyned i'r Athrofa i'r Drefnewydd. Ar ol colli gwasanaeth Mr. Jones penderfynodd yr eglwys anfon at y Parch. D. Peters, Caerfyrddin, am wr ieuanc a wnai fugail ac ysgolfeistr iddynt. Anfonodd yntau Mr. James Williams, Llanwrtyd,—Hwlffordd wedyn. Ond nid oedd efe'n hoffi'r lle, ac anfonwyd am arall, pryd y daeth Mr. Henry Rees, brodor o Gaerfyrddin, a chawn iddo ef, ar yr 11eg o Ionawr, 1830, arwyddo cytundeb â'r eglwys (gwel y bennod ar "Yr Ysgolion Bore") i fod yn fugail iddi ac yn athraw i'w phlant. Cynhaliwyd cyfarfod i'w ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth ar yr 2fed o Fehefin, 1831. Yn flaenorol i hyn, ni cheid ond un bregeth yn Salem, sef ar fore Saboth. Elai'r pregethwr i Forfa Bychan erbyn y nos. Ond wedi dyfodiad Mr. Rees, newidiwyd y drefn i gael dwy bregeth yn Salem. Ni bu'r achos yng nghyfnod arhosiad Mr. Rees mor llewyrchus ag y dymunid. Dioddefodd ychydig o drai—nid o unrhyw ddiffyg o du'r gweinidog, ond o herwydd difrawder naturiol, a dyddiau tawel ar grefydd. Yn lled ddirybydd, ac er gofid i'r eglwys, penderfynodd Mr. Rees ymadael i Bentraeth a Phenmynydd, Môn. Dilynwyd ef yn Salem gan y Parch. Joseph Morris, pregethwr cynnorthwyol o Lerpwl. Sefydlwyd ef ar y 15fed o Hydref, 1834. Gwr cyfiawn oedd efe, yn cashau rhagrith, twyll, ac amhurdeb, â châs cyflawn; a phan ymsefydlodd yn y lle cafodd achlysur i ddysgyblu amryw. Dwy flynedd yn unig a fu cyfnod arhosiad Mr. Morris yn Salem. Cafodd alwad i Bwlchtocyn ac Abersoch, a chymerodd eu gofal yn Hydref, 1836. Yr un amser yr oedd y Parch. W. Williams (Caledfryn) wedi ei benodi i fyned ar daith—yn ol arfer y dyddiau hynny trwy Leyn ac Eifionnydd. Cymerodd yn gyfaill iddo Mr. W. Ambrose o Fangor, yr hwn oedd y pryd hynny'n fachgen ieuanc 23ain oed, newydd ddychwelyd adref o Lunden, wedi treulio wyth mlynedd o amser mewn gwasanaeth yn Lloegr, ac eto heb benderfynu ar y cyfeiriad a gymerai mewn bywyd. Yn ystod eu taith