Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ystod y misoedd hynny cynhelid yr Undeb ym Mhorthmadog, ac ymhlith y rhai a wnaeth "enw iddynt eu hunain" yr oedd y Parch. Lewis Probert, yr hwn oedd y pryd hwnnw'n weinidog ieuanc yn y Rhondda. Gwnaeth argraff ddofn ar y gwrandawyr, a chanfu yr eglwys, oedd o dan orfod bellach i feddwl am olynydd i'r Parch. William Ambrose, fod un wrth fodd ei chalon yn bresennol. Yn fuan symudwyd ymlaen i roddi galwad iddo, a honno'n alwad unfrydol, —iddo ddyfod i'w bugeilio, ac er nad oedd hynny ym mryd Mr. Probert pan yn yr Undeb, rhoddodd atebiad ffafriol. Dechreuodd ar ei waith gweinidogaethol yn Salem yn nechreu'r flwyddyn 1874, ac fel y profodd, ni allesid cael ei gymhwysach fel olynydd i'r diweddar Barch. W. Ambrose. Nid oedd yr Annibynwyr ym Mhorthmadog, er clod iddynt, am adael Emrys fod heb goffadwriaeth deilwng ohono, a'r ffurf a gymerodd eu penderfyniad ydoedd codi capel newydd ar ei enw, i lefaru i'r oesau a ddeuai ddyfned eu parch iddo. Gweithiodd yr eglwys yn egniol a chanmoladwy tuag at sylweddoli hynny, ac ymdaflodd Mr. Probert â'i holl ysbryd i'r gwaith, a bu'n arweinydd doeth a diogel gyda'r symudiad pwysig. Gan fod yr "Undeb Cymreig" i'w gynnal ym Mhorthmadog ym mis Awst, 1877, manteisiwyd ar yr achlysur i osod y sylfaen i lawr ar yr 20fed o Awst, gan Henry Richards, Ysw., A.S., yr hwn a dalodd deyrnged uchel o barch i Mr. Ambrose. Cymerwyd dwy flynedd o amser i gwblhau'r gwaith, ac ar nos Fercher, y 7fed o Fai, 1879, rhoddodd eglwys Salem lythyrau gollyngdod i bedwar o'u diaconiaid Mri. Hugh Davies, Owen Hughes, Richard Williams, a John Williams, ynghyda'u teuluoedd, a phedwar ugain o aelodau eraill, y cyfan yn 98 o bersonau. Parhaodd y Parch. L. Probert i wasanaethu'r ddwy eglwys gyda'r llwyddiant a nodweddai ei holl waith, gan geisio pregethwyr eraill i wasanaethu gydag ef ar y Sabothau.

Y diaconiaid a adawyd yn Salem oeddynt Mri. Owen Morris, William Evans, William Timothy, a Benjamin Roose. Tymhor hapus, yn llawn gwaith, fu tymhor Mr. Probert ym Mhorthmadog—hyd yr adeg y tra-