Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o wyr blaenllaw yr enwad yn Lleyn ac Eifionnydd; Mri. David Griffith, Capten David Richards, a Joseph Hughes. Dewiswyd Mr. David Griffith yn ysgrifennydd yr eglwys, y Cadben David Richards yn drysorydd, a Mr. John Williams yn arweinydd y canu—swydd a lanwasai am flynyddoedd yn Salem.

Bu'r eglwys am amryw flynyddoedd yn gysurus a llwyddiannus iawn—yr aelodau a'r gynulleidfa'n lluosogi, a'r ddyled yn cael ei diddymu'n gyflym.

Yn y flwyddyn 1886 derbyniodd Mr. Probert alwad oddi wrth ei hen eglwys ym Mhentre Rhondda. Traddododd ei bregeth olaf yn y Coffa ar yr 21ain o Fawrth. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo yn Salem o dan lywyddiaeth Mr. W. E. Morris, pryd yr anrhegwyd ef a darlun (painting) o hono'i hunan, ynghydag anrhegion i Mrs. Probert a'u mhab; ac ni symudodd gweinidog erioed o'r naill ofalaeth i'r llall o dan amlygiad o fwy o barch nag a wnaeth Mr. Probert. Cyfrannodd yn helaeth at yr achos tra bu ym Mhorthmadog, a rhoddodd ei ysgwyddau'n llawen o dan feichiau y ddwy eglwys. Yn ystod y naw mlynedd cyntaf o oes y Coffa, talwyd yn agos i bedair mil o bunnau. Colled fawr i'r eglwys oedd colli gwr o'i ymroddiad ef. Er hynny ni ddigalonasant, ond symudasant ymlaen yn ddiymdroi i sicrhau olynydd teilwng iddo trwy alw y Parch. H. Ivor Jones, oedd y pryd hynny yng ngofalaeth eglwys Llanrwst. Dechreuodd Mr. Jones ar ei waith ym Mhorthmadog ar y 6ed o Chwefrol, 1887. Yn y flwyddyn 1889 agorwyd yr Oriel—hyd hynny ni bu ei hangen. Yn y flwyddyn ddilynol dewiswyd y Mri. William Williams, Richard Owen, Lewis Jones Lewis, David Owen, a John Griffith, yn ddiaconiaid. Yn 1897-8 ychwanegwyd ysgoldy helaeth a chyfleus at y capel, ar y draul o yn agos i naw cant o bunnau, ac agorwyd hi ar y 9fed o Fawrth, 1898. Yn y flwyddyn ddilynol derbyniodd y Parch. H. Ivor Jones alwad oddi wrth eglwys Gymraeg Albion Park, Caerlleon. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo ar yr 21ain o Fedi, dan lywyddiaeth y swyddog hynaf,—Mr. John Williams. Cyflwynwyd i Mr. Jones, ar ran yr eglwys, anerchiad