Y BEDYDDWYR ALBANAIDD: EGLWYS BEREA.
Dechreu'r Achos.1841
Adeiladu'r Capel 1853
Adgyweirio.1895
Y Gweinidogion
Y Parch. Wm. Roberts 1855-8
Y Parch. Wm. Jones .1858
Y Parch. Stephen Jones 1882
Cyn y flwyddyn 1841 nid oedd gan y Bedyddwyr Albanaidd—a adwaenir hefy wrth yr enwau McLeaniaid, a Disgyblion Cristionogol—unrhyw fath o achos ym Mhorthmadog. Byddai'n rhaid i'r brodyr a ddeuent o Harlech, Talsarnau, Tan y Grisiau, a Thrawsfynydd, fyned i Ramoth at eu harweinydd. Ond yn gynnar yn y flwyddyn 1841, yr oedd eu rhif ym Mhorthmadog wedi cynhyddu digon iddynt anturio dechreu achos eu hunain, a chawsont ganiatad i ddefnyddio'r ystafell y cynhaliai'r hen forwr methedig William Griffith ei ysgol ddyddorol ynddi ym Mhen y Cei. Ond nid i William Griffith yr oeddynt i ddiolch am hynny. Annibynwr gor-selog ydoedd efe, a chashai'r enwad newydd â châs cyflawn, fel y gwelir yn y bennod ar Addysg. Ni feddai'r hen forwr ond ar un ystafell i gyflawni ei holl oruchwylion. Yno y dysgai y plant, ac y darparai ei holl ymborth. Oherwydd ei gasineb tuag at y Bedyddwyr Albanaidd, gofalai na wnai ddim a fyddai'n hwylusdod iddynt gyda'r gwasanaeth crefyddol, ac ni allai dan unrhyw amgylchiad aros yno yn ystod y moddion. Yn hytrach, gofalai am fyned ymaith, gan adael popeth yn y lle yn y cyflwr mwyaf annrhefnus a fyddai'n bosibl yn enwedig ar y Sabathau. Gadawai'r meinciau ar draws eu gilydd, a gweddillion y penwaig a'r wynwyn i addurno'r pentan!
Parhaodd pethau felly am tua deuddeng mlynedd, ond cafwyd caniatad y perchenog i osod pwlpud yn ymyl y ffenestr, a cheid pregethu'n achlysurol gan frodyr o Ramoth a Harlech yn eu tro. Fel y cynhyddai'r dref lluosogai'r eglwys hefyd mewn rhif, yn gymaint felly fel y penderfynasant, yn Nhachwedd, 1852, gymeryd