ac eglwys Criccieth, ynghyda'r nifer oedd ym Mhenmachno, yn aelodau o'r Cyfundeb Albanaidd, ar yr amod eu bod yn torri eu cysylltiad yn llwyr â Robert Rees, Parc, Llanfrothen, a'i ddilynwyr, y rhai a ystyrid oeddynt wedi gwyro ymhell mewn cyfeiliornadau parthed aberth Crist fel Lawn dros bechod—cyfiawnder pechadur ger bron Duw, &c. Dywedai rhai o ddilynwyr R. Rees nad oedd mwy o rinwedd Iawnol yng ngwaed Crist nag y sydd mewn gwaed aderyn; ond gwyddai'r Albaniaid nad oedd y frawdoliaeth yng Nghriccieth wedi myned i gyflwr felly. Cydsyniodd Mr. Jones â'u cais, ond iddo "gael rhesymau digonol dros hynny."
Aeth yr achos ym mlaen yn weddol gysurus am beth amser, ond ofnai rhai o'r brodyr nad oedd Mr. Jones yn cadw'n ddigon llwyr oddiwrth athrawiaethau R. Rees, a gwylient ar bob cyfle i ddal arno.
Oes y dadleuon pynciol oedd honno, gyda phob enwad. Cymaint oedd yr oerfelgarwch fel y galwodd Mr. Jones sylw'r eglwys ato, ar ol y gyfeillach un nos Fercher, i ofyn eglurhad arno. Atebwyd ef yn ddiatreg gan un o'r diaconiaid—Mr. Owen Jones—a hynny mewn ysbryd ymhell o fod yn ei le—mai yr achos o'r oerfelgarwch oedd, fod arnynt eisiau iddo ef dorri ei gysylltiad yn llwyr â'r cyfeillion y cwynai o'u plegid. Ac eb efe, "Os na thorrwch y cysylltiad â'r cyfryw bobl—mi gaiff y capel yma fod yn eiddo i'r sawl a'i piau—ewch chwithau i'r man y mynnoch."
Cododd Mr. Jones ar ei draed, a dywedodd,—" Er nad oes gennych hawl i'm troi allan fel yna, gwell yw i mi ymneillduo; a phawb o'r brodyr a'r chwiorydd sydd yn dewis dyfod i'm canlyn, deuwch i fy nhŷ i nos yfory, er mwyn i ni drefnu ym mha le i ymgynull ar Ddydd yr Arglwydd nesaf i addoli. Er i ymgais deg gael ei wneud gan Mr. Griffith Humphreys a Mrs. Catherine Roberts, priod Capten Roberts yr Economy, i ymbwyllo, ac i oedi dyfod i unrhyw benderfyniad, ni wrandawyd arnynt. Y noswaith ddilynol aeth nifer o'r brodyr a'r chwiorydd, oedd mewn cydymdeimlad â Mr. Jones, i'w dŷ yn ol ei wahoddiad, ac yno pender-