SION: CHAPEL STREET.
Dechreu'r Achos 1859
Adeiladu Capel 1860
Wedi i Mr. William Jones a'i ddilynwyr gefnu ar eglwys Berea, gan ei gadael heb ond tua dau frawd a phump neu chwech o chwiorydd, ymgynullasant mewn sail room yng nghefn y Britannia Terrace, a berthynai i Mr. William Jones (Lloyd's Surveyor), gan arddel eu hunain yn "Ddilynwyr Crist" neu Fedyddwyr Cambelaidd. Y flwyddyn ddilynol adeiladwyd y capel presennol, ac agorwyd ef ar yr 8fed o Fehefin, 1860. Yr oedd Mr. Jones wedi ei neillduo i'r swydd o henadur yn eglwys Criccieth, ar y 16eg o Fai, 1841. Ni bu'r frawdoliaeth yn hir cyn i enw Robert Rees a'i ddaliadau fod yn faen tramgwydd iddynt eto, yn gymaint felly fel y barnodd Mr. William Jones yn ddoeth wneud yr hysbysiad a ganlyn ar glawr y Llusern—cyhoeddiad misol yr enwad:
"Dymuna y Disgyblion Cristionogol yng Nghriccieth a Phorthmadog hysbysu nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddynt â Robert Rees, Llanfrothen, a'r rhai sydd ynglyn âg ef, dan yr amgylchiadau presennol; ac ni dderbynir neb o leoedd eraill a ymgysyllto â hwynt."
Tystiai brodyr Berea, pe y cyhoeddasid yr uchod cyn yr ymraniad, na ddigwyddasai'r rhwyg.
Bu Mr. Jones yn hynod ffyddlon yn Sion, a bu'r ddiadell â'u henadur mewn undeb perffaith â'u gilydd o hynny hyd ei farw. Ar yr un adeg ag yr adeiladwyd y capel adeiladodd Mr. Jones, ar ei draul ei hun, dŷ capel, yr hwn a drosglwyddwyd i'r eglwys yn ddiweddarach gan ei fab, Dr. William Jones Williams, Middlesbro. Bu Mr. Jones farw ar y 18fed o Orffennaf, 1887, ac ni dderbyniodd yn ystod y saith mlynedd ar hugain y bu'n henadur yn "Sion" unrhyw gydnabyddiaeth ariannol am ei lafur, am y credai fod derbyn cyflog am wasanaethu'r swydd yn groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd.
Rhif yr eglwys yn bresennol, 14.
Henadur.—Mr. Owen Price.
Athraw.—Mr. John Jones (Caerdyni).