amser hwn yr ychwanegwyd oriel at y capel, ac y bu'r Parch. Harris Jones, Ph.D., yn llafurio yn eu plith am rai misoedd, ac yr ymwelodd y Parch. John Hughes, Lerpwl, â hwy. Yn y flwyddyn 1857 daeth y Parch. Edward Davies o'r Pennant i sefydlu masnachdy yn y dref, a bu ei ddyfodiad o sirioldeb mawr i'r achos. Erbyn y flwyddyn 1859—blwyddyn y Diwygiad—nid oedd eisteddle wag o fewn y capel. Yng ngwres yr adfywiad hwnnw ymgynghorodd yr arweinwyr yng nghyd, am y priodoldeb o helaethu'r capel, neu adeiladu un newydd mewn man a fuasai'n cyfarfod â chynydd y dref. Ymgynghorwyd ar hyn gyda rhai o wyr mwyaf blaenllaw y Cyfarfod Misol, megis y Parchn. John Owen, Ty'n Llwyn, a Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon, y rhai a'i cynghorent yn llawen i adeiladu capel newydd, helaeth, mewn rhan arall o'r dref, yn hytrach nag ail adeiladu'r un oedd ganddynt. Ac adeiladwyd y Tabernacl. Yn y flwyddyn 1860, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i'r Parch. Thomas Owen i ddyfod yn fugail arnynt. Pan agorwyd y Tabernacl yn flwyddyn 1862, ymadawodd tua 140 o aelodau'r Garth i fyned yno; ac yn eu plith yr oedd y Parch. Edward Davies, a'r blaenor hynaf, Mr. John Richards. Y blaenoriaid arhosodd yn y Garth oeddynt—Mri. William Williams, Llannerch, a Thomas Morris; ond ychwanegwyd atynt yn fuan atynt yn fuan Mri. John Phillips (Tegidon), a John Lewis, plumber; ac er cymaint o aelodau aeth i'r Tabernacl, llanwyd eu lleoedd yn fuan, fel y gorfu iddynt eto helaethu'r capel. Ymadawodd Mr. Thomas Morris o'r Garth, ac ym mis Mai, 1871, daeth Mr. W. W. Morris (Penmorfa'n awr), i Borthmadog o Dan y Grisiau, gan ymaelodi yn y Garth. Yr oedd Mr. Morris yn flaenor yn Nhan y Grisiau, ac ar ei ddyfodiad i'r Garth etholwyd ef i'r swydd yno.
Erbyn y flwyddyn 1876 rhifai'r aelodau 286. Tua'r flwyddyn 1881 daeth Mr. Henry Llewelyn Jones i fyw i Borthmadog. Yr oedd efe wedi bod yn flaenor neillduol o weithgar yn Siloam, Llanfrothen, am ugain mlynedd: galwyd arno i lanw'r swydd yn y Garth, a bu ynddi yn wasanaethgar a defnyddiol am tuag un