Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/88

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod y capel yn tywyllu eu goleuni. Talwyd i'r cymerwr, gan gynnwys yr extras, £4,262 3s. Talwyd am sicrhau'r sylfaen concrete, llafur, &c., £155 2s.

Erbyn diwrnod ei agoriad, yr oedd dau wr a fu'n flaenllaw gyda'r symudiad wedi gorffwys oddi wrth eu llafur, sef y Capten John Owen, Garth Cottage, a Mr. William Williams, Llannerch. Yr oedd Capten Owen wedi cymeryd rhan neillduol yn y gwaith, ac yr oedd efe a'i briod wedi cyfrannu £205 tuag ato. Am William Williams, yr oedd ef yn un o sylfaenwyr Methodistiaeth ym Mhorthmadog, a bu a'i ysgwyddau'n dyn o dan yr arch. Bu'n swyddog yn y Garth am 45 o flynyddoedd. Cyfranodd, rhwng popeth, £47 10s. tuag at y capel newydd. Bu farw ar yr 11eg o Awst, 1897.

Agorwyd y capel newydd ar y 29ain o Fai, 1898, pryd y traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo gan y Parch. Thomas Owen.

Y blaenoriaid ar y pryd oeddynt:—Mri. Henry Llewelyn Jones, Robert Roberts, Banc, William Griffith, Robert Hughes, Richard Hughes, a John Lewis.

Yr oedd eu gweinidog parchus yn myned yn oedrannus; dechreuodd ei nerth a'i ynni gilio, a daeth yn fuan i deimlo'n awyddus i ymryddhau o'i ofalon bugeiliol. Rhoddodd ei eglwys i fyny, ond parhaodd yn y gwaith am ysbaid wedyn, ac edrychai'r eglwys arno fel eu bugail er na chymerai ei gydnabod am ei lafur. Yn y flwyddyn 1903 symudodd i dreulio hwyrddydd ei fywyd gyda'i fab yn Connah's Quay. Bu farw ar yr 28ain o Awst, 1908, yn 75 mlwydd oed.

Yn 1905 rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D. Dechreuodd yntau ei waith yn Nhachwedd y flwyddyn honno, ac nid oes weinidog mwy gweithgar nag efe o fewn y dref. Blwyddyn bwysig i Gapel y Garth fu'r flwyddyn 1908. Ynddi hi y bu farw dau o'r swyddogion—Mr. William Griffith, a Mr. H. Llewelyn Jones,—a'r ddau ar derfyn diwrnod da o waith, y naill yn 80, a'r llall yn 72 mlwydd oed. Yn y flwyddyn honno y dewiswyd yn flaenoriaid—Capten Morgan Jones; Mri. J. T. Jones, y Banc; William